Baner Cenia
Mabwysiadwyd baner Cenia neu baner Kenya (Swahili: Bendera ya Kenya) yn swyddogol ar 12 Rhagfyr 1963 y diwrnod i Cenia ddatgan ei hannibyniaeth.[1]
Dyluniad
golyguMae'r faner yn un trilliw llorweddol o ddu, coch a gwyrdd gyda ymylon gwyn i'r stribed coc sy'n rhedeg ar draws canol y maes. Yng nghanol y faner ceir tarian llwyth y Masai a dau gwaywffon wedi eu croesi. Mae'r faner wedi ei seilio ar faner mudiad y Kenya African National Union (KANU) a ddaeth, maes o law, i fod y blaid a reolodd y wlad o annibyniaeth hyd at 2002. Roedd y faner KANU wreiddiol yn ddu a choch gyda tharian yn y canol - lluniwyd on ar 3 Medi 1951.[1]
Lliwiau
golyguAmodir lliwiau'r faner gan Archif Genedlaethol Cenia:
Du | Coch | Gwyrdd | |
---|---|---|---|
Lliwiau Safonol Prydeinig | — | 'Post office Red' 0-006 |
0-010 |
Symboliaeth
golyguMae'r darian a'r gwaywffyn croes yn symbol o ewyllys i amddiffyn ryddid. Mae'r faner wedi'i chynllunio i atgoffa'r Ceniaid o amserau anodd eu caethiwed dan lywodraeth drefendigaethol Ymerodraeth Prydain. Mae ystyr i liwiau'r stribedi yn y faner trilliw:[2]
- Du - y bobl ddu gynhenid
- Coch - gwaed a gollwyd i ennill rhyddi
- Gwyrdd - meysydd a choedwigoedd y wlad
- Gwyn - ar gyfer heddwch y gorffennol a dyfodol y wlad dyn du yn Affrica ac undod y bobloedd
Mae'r faner yn seiliedig ar faner werdd-ddu Undeb Cenedlaethol Affricanaidd Kenya, a arweiniodd y frwydr o annibyniaeth.
Cyn bod yn annibynnol, defnyddiwyd faner y Blue Ensign gydag arfbais yn yr adran hedfan fel baner drefedigaethol y "Colony and Protectorate of Kenya" Brydeinig.
Baneri Llywodraethol a Gwladwriaethol Eraill
golyguCeir amrywiaeth ar y faner genedlaetol ar gyfer baneri swyddogol eraill y wladwriaeth
Ystondord Arlywyddwyr Cenia
golygu-
Ystondord yr Arlywydd Jomo Kenyatta
-
Ystondord yr Arlywydd Daniel Arap Moi
-
Ystondord yr Arlywydd Mwai Kibaki
-
Ystondord yr Arlywydd Uhuru Kenyatta
Lluoedd Amddiffyn
golygu-
Llynges Cenia
-
Ystondord Arlywydd y LLynges
-
Baner Lluoedd Amddiffyn Cenia
-
Llu Awyr Cenia
Baneri Tebyg
golygu-
Baner y mudiad Rhyng-Affricanaidd (pan-Affrica)
Cyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- Cenia gan Flags of the World.
- vexilla - mundi.com