Cenia
Gwlad yn nwyrain Affrica yw Gweriniaeth Cenia neu Cenia[1] (hefyd Cenya). Mae'n ffinio â Somalia i'r gogledd-ddwyrain, Ethiopia i'r gogledd, De Swdan i'r gogledd-orllewin, Iwganda i'r gorllewin, Tansanïa i'r de a Chefnfor India i'r de-ddwyrain. Nairobi yw'r brifddinas.
![]() | |
Arwyddair |
Magical Kenya ![]() |
---|---|
Math |
gwladwriaeth sofran, gwlad ![]() |
Enwyd ar ôl |
Mynydd Cenia ![]() |
![]() | |
Prifddinas |
Nairobi ![]() |
Poblogaeth |
48,468,138 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem |
Ee Mungu Nguvu Yetu ![]() |
Pennaeth llywodraeth |
Uhuru Kenyatta ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+03:00 ![]() |
Gefeilldref/i |
Cheltenham ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Swahili, Saesneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Dwyrain Affrica ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
581,309 ±1 km² ![]() |
Yn ffinio gyda |
Ethiopia, Somalia, Tansanïa, Wganda, De Swdan, Swdan, Y Cynghrair Arabaidd, Llyn Victoria ![]() |
Cyfesurynnau |
0.1°N 38°E ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol |
Government of Kenya ![]() |
Corff deddfwriaethol |
Parliament of Kenya ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth |
President of Kenya ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth |
Uhuru Kenyatta ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
President of Kenya ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Uhuru Kenyatta ![]() |
![]() | |
Arian |
Kenyan shilling ![]() |
Canran y diwaith |
9 ±1 % ![]() |
Cyfartaledd plant |
4.334 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol |
0.548 ![]() |
DiwylliantGolygu
Mae Cenia yn wlad llawn o rhan ei Ddiwylliant, ac mae ganddo nifer o wahanol ddiwylliannau wedi cael ei magu yno, megis Swahili ar yr arfordir, cymunedau pastoralaidd yn y gogledd, ac nifer o wahanol gymunedau yn bod yn y gorllewin ac yng nghanol y wlad. Heddiw, mae'r ddiwylliant Maasai yn adnabyddus, oherwydd ei fod wedi cael llawer o gyhoeddusrwydd er ei fod yn lwyth lleiafrifol. Maent yn adnabyddus iawn oherwydd y ffordd maen't yn addurno ei cyrff ac am y gemwaith maen't yn gwisgo.
Gwisg cenedlaetholGolygu
Heblaw am y faner genedlaethol, dal i chwilio am wisg addas mae pobol Cenia. Gan fod o leiaf 42 cymuned ethnig i gael yng Nghenia, a phob un ohonynt a symbolau amrywiol sydd yn gwneud hwy yn unigryw, mae dylunio gwisg a fydd yn iawn i bawb wedi profi i fod yn dasg annodd iawn i bobl yn y gorffennol.
Yr ymgais diweddaraf oedd y 'Sunlight quest for Cenia's National Dress', wedi'i noddi gan Unilever. Fe gafodd dyluniad ei ddewis, ac er cafodd ei ddadorchuddio mewn seremoni cyhoeddus gyda pobl enwog yn modelu'r wisg, ni wnaeth y dyluniad afael gyda pobol Cenia.
Mae Kitenge, sef defnydd cotwm wedi'i wneud mewn i nifer o wahanol liwiau, yn cael ei ddefnyddio gan nifer o bobol Cenia fel gwisg genedlaethol, ond er ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn nifer o wledydd Africanaidd, dydy hi dal ddim yn wisg cenedlaethol eto, gan ei fod yn cael ei wisgo'n amlach mewn seremoniau. Mae'r Maasai yn gwisgo darnau o goch tywyll i ddangos ei cariad am y ddaear ac eu dibyniaeth arno. Mae hefyd yn sefyll am ei gwaed ac am ei gwroldeb. Mae'r Kanga neu Lesso yn ddefnydd arall sy'n cael ei ddefnyddio yn y mwyafrif o gartrefau Cenia. Mae'r Kanga yn wisg rhwng 1.5 ac 1 medr o hyd, gyda dywediadau Kiswahili neu Saesneg arno, sydd yn cael ei wisgo gan ferched yn amlaf o gwmpas ei cyrff. Mae hefyd yn gallu cael ei defnyddio fel ffedog, blanced neu sling i gario plentyn bach.
CerddoriaethGolygu
Mae Cenia yn wlad llawn cerddoriaeth o bob steil, o gerddoriaeth o wlad arall, megis afro-fusion ac benga, i gerddoriaeth gwerin. Y gitar yw'r offeryn mwyaf poblogaidd yng Nghenia, ac mae'n cael ei ddefnyddio mewn nifer o rhythmau. Y gitarydd enwocaf yn yr 20g cynnar oedd Fundi Konde. Rhai cerddorwyr eraill o'r 60au yn cynnwys Fadhili Williams, sef canwr y gân 'Malaika' a gafodd ei ail-wneud yn hwyrach gan Miriam Makeba, Boney M. ac Daudi Kabaka.
Fe all cerddoriaeth poblogaidd yn yr 80au a'r 90au cael ei rhannu i ddau ffurf, y sŵn Swahili a'r sŵn Congolese. Mae hefyd steiliau amrywiol yn dibynnu ar ardaloedd gwahanol, ac mae rhai perfformwyr yn gwneud cerddoriaeth i apelio at dwristiaid, ac un enghraifft o hwn yw'r grwp - Them Mushrooms.
Yn ddiweddar, mae dau ffurf arall wedi dod i'r golwg - Genge a Kapuka. Mae hwn wedi chwildroi cerddoriaeth poblogaidd Cenia, ac wedi creu math newydd o gerddoriaeth yn fwy at y genhedlaeth ifanc. Mae rhai pobl sy'n enwog am y math yma o gerddoriaeth yn cynnwys Poxi Presha, (Otonglo time) Kalamashaka a K-South.
Mae rhai cerddorwyr fel Nameless, Redsan, Necessary Noise, Wawesh, Nonini, Juacali, Kleptomaniax, Longombas, Suzannah Owiyo, Achieng Abura ac nifer eraill yn canu mewn steil Reggae, Pop, Afro-fusion ac Hip-Hop. Mae rhai o'r cerddorwyr hefyd yn ysgrifennu can yn gymysgedd o eiriau Swahili ac Saesneg.
Mae'r Kisima Music Awards sydd yn arddangos holl dalentau cerddorol Dwyrain Africa wedi'i leoli yng Nghenia, ac bob blwyddyn, mae nifer o gerddorwyr Ceniaidd yn ennill gwobrau yn y digwyddiad pwysig yma.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Geiriadur yr Academi, [Cenia].