Baner Costa Rica
Mabwysiadwyd baner Costa Rica yn swyddogol ar 27 Tachwedd 1906, er bod y patrwm wedi bod mewn bodolaeth o'r cyfnod wedi i Costa Rica ymwahanu o Weriniaeth Ffederal Canolbarth America yn 1840.
Mae'r lliw glas yn symbol o'r awyr a dyheadau ysbrydol, y gwyn yn symbol o heddwch a'r coch yn symbol o waed y rhai a laddwyd yn y rhyfeloedd am annibyniaeth. Mae'r lliwiau yr un rhai ag sy'n ymddangos ar Faner Ffrainc.
Ymddengys arfbais y wlad ar faner y wladwriaeth, ond nid ar y faner ddinesig.