Gweriniaeth Ffederal Canolbarth America
Gwladwriaeth yng Nghanolbarth America yn hanner cyntaf y 19g oedd Gweriniaeth Ffederal Canolbarth America, yn wreiddiol gelwyd y wlad yn Taleithiau Unedig Canolbarth America.
![]() | |
Math | gwlad ar un adeg ![]() |
---|---|
Prifddinas | Dinas Gwatemala, San Salvador, Sonsonate ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem | La Granadera ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Manuel José Arce ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Arwynebedd | 930,000 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Gran Colombia ![]() |
Cyfesurynnau | 14.6167°N 90.5167°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Federal Government of the Federal Republic of Central America ![]() |
Corff deddfwriaethol | Congress of the Federal Republic of Central America ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | President of the Federal Republic of Central America ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | Manuel José Arce ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | President of the Federal Republic of Central America ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Manuel José Arce ![]() |
![]() | |
Arian | Central American Republic real ![]() |
Hanes Golygu
Sefydlwyd y wladwriaeth yn 1823, ar batrwm Unol Daleithiau America, wedi i'r diriogaeth yma ennill annibyniaeth oddi ar Ymerodraeth Sbaen. Roedd yn cynnwys taleithiau Gwatemala, El Salfador, Hondwras, Nicaragwa a Costa Rica. Ar 5 Mehefin 1838 ychwanegwyd Los Altos, tiriogaeth sy'n awr yn dalaith Chiapas yn Mecsico.
Daeth yr undeb i ben rhwng 1838 a 1840. Ymwahanodd Nicaragwa o'r ffederasiwn ar 5 Tachwedd 1838, a dilynwyd hi gan Hondwras a Costa Rica. Erbyn 1840, roedd pedwar o'r pum aelod wedi eu cyhoeddi eu hunain yn annibynnol, er na ddaeth yr undeb i ben yn swyddogol hyd Chwefror 1841, pan gyhoeddodd El Salfador ei hannibyniaeth.
Baner Unol Daleithiau Canolbarth America - Gweriniaeth Ffederal Canolfbarth America (1823-1839) Golygu
-
Baner Unol Daleithiau Canolbarth America rhwng 21 Awst 1823 a 22 Tachwedd 1824
-
Baner filwrol Undol Daleithiau Canolbarth America 1823 a 1824
-
Baner Gweriniaeth Ffederal Canolbarth America 22 Tachwedd 1824 a 19 Tachwedd 1839