Baner Cymuned Gwledydd yr Iaith Portiwgaleg
Mae Baner Cymuned Gwledydd yr Iaith Portiwgaleg yn symbol sy'n cynrychioli Comunidade dos Países de Língua Portuguesa - rhwydwaith o wledydd Lwsoffôn (siaradwyr Portiwgaleg mewn ffordd sy'n debyg o ran natur a chennad i'r Gymanwlad Brydeinig.
Disgrifiad o'r Faner
golyguMae baner y CPLP yn cynnwys maes gwyn gyda ffin las drwchus o'i amgylch. Oddi fewn i'r ffrâm las yma, ceir siap cylch neu olwyn fel sylfaen greadigol. Mae'r olwyn wedi ei rannu yn wyth asgell sy'n ffurfio strwythur cyfartal. Mae pob adain yn cynrychioli aelod-wlad o'r CPLP. Y bwriad yw bod y siâp a'r lliw yma yn cynrchioli'r môr, sef, y prif gyswllt rhwng y gwledydd sy'n ffurfio'r Gymuned. Yng nghanol y cyfansoddiad hwn gwelir cylch fel smotyn sy'n= cynrychioli elfen yr undeb; yr iaith Portiwgaleg.
Hanes
golyguSefydlwyd y CPLP yn 1996 gyda saith aelod gwreiddiol:[1] Portiwgal, Brasil, (cyn-drefedigaeth Portiwgal yn Ne America), a'r pum cyn drefedigaeth yn Affrica - Angola, Cabo Verde, Gini Bisaw, Mosambic, a São Tomé a Príncipe. Ymunodd Dwyrain Timor (Timor L'Este) y Gymuned yn 2002 wedi iddi adennill ei hannibyniaeth oddi ar Indonesia. Ymunodd Gini y Cyhydedd yn 2014. Mae Senegal a Mauritius yn aelodau cysylltiol.