Baner Gagauzia
Baner Gagauzia yw baner swyddogol Gagauzia (Gagauz-Yeri) ac fe'i cymeradwywyd yn swyddogol gan y gyfraith a basiwyd gan Senedd Gagauzia ar 31 Hydref 1995. Rhanbarth hunanlywodraethol Tyrceg ei hiaith o fewn Moldofa yw Gagauzia, ond bod dylanwad Rwsiaidd gref arni oherwydd ei hanes.[1]
Enghraifft o'r canlynol | baner cenedlaethol |
---|---|
Lliw/iau | glas, gwyn, coch, melyn |
Dechrau/Sefydlu | 31 Hydref 1995 |
Genre | horizontal triband, defaced flag |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Disgrifiad
golyguMae'r faner yn cynnwys tair streipen:
- streipen uchaf las, 3/5 o led y faner
- streipen ganol wyn, 1/5 o led y faner
- streipen isaf goch, 1/5 o led y faner
Mae tair seren felen ar y streipen las. Mae diamedr pob seren yn 3/20 o led y faner a 3/10 o led y faner yw'r pellter rhwng y sêr.
Hanes
golyguGyda chwymp yr Undeb Sofietaidd, enillodd Gweriniaeth Moldofa ei hannibyniaeth yn 1991. Ar 19 Awst datganodd pobl Gagauz eu gwladwriaeth eu hunain. Rhwng 1991 a 1994, defnyddiwyd baner las golau gyda phen blaidd coch ar ddisg wen ac addurniadau melyn arni.[2][3] Fe'i defnyddiwyd gyntaf mewn cyfarfod tanddaearol ym mis Hydref 1989 yn Comrat. Yn yr iaith Dyrceg, Kökbayrak (Y Faner Las) oedd enw'r faner.
Mae baner Gagauzia'n cymryd symbolau o Ymerodraeth Cwman (1061–1240). Mae'r glas golau yn symbol o'r duw awyr Tengri, y credai hynafiaid y Gagauz ynddo. Gökoğuz oedd yr enw Gagauz yn wreiddiol. Daw'r gair "gök" o Dyrceg ac mae'n golygu "awyr", ystyr Oğuz "Oghuz" - sef y Twrciaid Oghuz bu'n gyndeidiau i nifer o'r cenhedloedd Twrceg heddiw.[4] Daw'r blaidd o fytholeg Twrcaidd. Yn ôl chwedl Asena, mae delwedd y blaidd yn gysylltiedig ag un o'r chwedlau mwyaf adnabyddus am linach bobl Gagauz. Yn ôl y chwedl hwn, bu brwydr ffyrnig rhwng dau lwyth, gan achosi dinistr un o'r ddau wrthwynebydd. Yr unig un i oroesi oedd bachgen o'r llwyth a drechwyd, ond roedd ei goes wedi’i hanafu’n ddifrifol a gallai wedi marw. Gydag hynny fe ofalwyd amdano gan flaidd. Bu i'r blaidd esgor ar efaill iddo oedd yn hanner blaidd a hanner dyn, gan gychwyn ar linach y bleiddiaid sef hynafiaid arwrol y Gagauziaid.[2] Oherwydd y chwedl, mae'r blaidd yn symbol o wahanol fudiadau cenedlaethol a chenedlaetholgar Twrci, megis y Bleiddiaid Llwyd.
Ym 1992, mabwysiadwyd baner yn swyddogol fel symbol egin-wladwriaeth answyddogol. Mae'n cyfateb i'r faner gyfredol ond heb y sêr. Mae Amgueddfa Genedlaethol Gagauz yn Comrat bellach yn arddangos copi o'r faner. Mae yna hefyd ddogfen o 1993 sy'n dangos llun du a gwyn o'r faner gyda symbol yn lle'r tair seren. Cyfarfu llywodraeth gyntaf Gagauzia yn yr ystafell arddangos bresennol ar 28 Gorffennaf 1993.[4]
Ar 23 Rhagfyr 1994, daethpwyd i gytundeb gyda Gweriniaeth Moldofa i roi ymreolaeth rannol i Gagauzia. Ar 31 Hydref 1995, mabwysiadwyd y faner yn ei ffurf bresennol gan y Cynulliad Cenedlaethol gyda Chyfraith Rhif 2-IV/1.[4] Mae baner y blaidd answyddogol i'w gweld o hyd ar wefannau amrywiol heddiw. Nid yw'n glir a yw'n cynrychioli pobl Twrcaidd Gagauz, yn hytrach na dinasyddion Gagauzia, sydd hefyd yn cynnwys grwpiau ethnig eraill. Fodd bynnag, yn aml mae gan y gwefannau hyn gefndir cenedlaetholgar Twrcaidd.[5][6] Mae statws baner las golau gyda disg melyn, ymyl ddu gyda phen blaidd du yn aneglur hefyd. Ymddengys hefyd ei fod yn dyddio o gyfnod mudiad annibyniaeth Gagauzia tua 1990.[4]
Dolenni allanol
golygu- Flags of the World - Gagauzia (Moldova)
- Vexillographia - Gagauzia (Rwsieg)
- What is Gagauzia? fideo ar Youtube
Cyfeiriadau
golygu