Coch

lliw

Lliw yw coch, yn cyfateb i olau â thonfedd o dua 625–760 nanomedr. Mae coch yn un o'r lliwiau primaidd.

Color icon red.svg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynollliw, web color Edit this on Wikidata
Mathgoleuni, lliw, lliw primaidd, lliw primaidd, lliw a enwir gan HTML4 Edit this on Wikidata
Rhan o7-liw'r enfys Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

EtymolegGolygu

Daw'r gair coch o'r Lladin Diweddar, coccum sef ceiriosen y goeden dderw sgarlad, a ddaw ei hun o'r Groeg, Κόκκος.[1] Mae'n cyfateb i'r gair am y lliw coch yn Albaneg sef, 'kuq'.

SymboliaethGolygu

Mae'r lliw coch yn gallu symboleiddio'r canlynol: Perygl, rhyfel, gwaed, poen, Comiwnyddiaeth, Sosialaeth, dicter, cariad a nwyd.

Mae rhosod coch yn symbol o gariad a phabïau yn symbol marwolaeth, yn enwedig marwolaethau milwyr yn ystod rhyfel.

Y Ddraig Goch yw arwyddlun cenedlaethol Cymru; cyfeirir ati am y tro cyntaf yng ngwaith Nennius.

Ystyron eraillGolygu

Yn y Gymraeg mae "coch" yn gyfystyr a "blue" yn Saesneg yn yr ystyr "masweddus", "budr" (yn ymwneud â rhyw), e.e. jôc coch, ffilm goch (blue movie). Mae coch yn lliw a gysylltir â phuteindra mewn sawl diwylliant, gyda llusern goch neu ryw arwydd coch arall yn y ffenestr yn dynodi bod rhyw am dal ar gael yn y tŷ hwnnw (fel yn achos yr ardal golau coch adnabyddus De Wallen yn Amsterdam). Ceir y gyfrol Englynion Coch gan Wasg y Lolfa - englynion yn ymwneud â rhyw.

CyfeiriadauGolygu

  1.  coch. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Awst 2022.
Chwiliwch am Coch
yn Wiciadur.
  Eginyn erthygl sydd uchod am wyddoniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.