Baner drilliw lorweddol gyda stribedi uwch ac is coch a stribed canol glas gyda chylch gwyn yn ei ganol yw baner Laos. Mae coch yn symboleiddio'r gwaed a gollwyd yn y frwydr am ryddid, glas yn cynrychioli cyfoeth, a gwyn yn symboleiddio undod o dan gomiwnyddiaeth. Dywedir hefyd bod y ddisg wen ar stribed glas yn cynrychioli lleuad lawn dros Afon Mekong.

Baner Laos

Mabwysiadwyd ar 2 Rhagfyr 1975 pan ddaeth y wlad yn weriniaeth i'r bobl. Mae'n anghyffredin fel baner gwlad gomiwnyddol gan nad yw'n cynnwys y seren bum-pwynt.

Ffynonellau golygu

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
  Eginyn erthygl sydd uchod am Laos. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato