Lleuad lawn
Lleuad lawn (weithiau lleuad llawn) yw'r wedd leuad pan fo'r lleuad yn ymddangos fel petai wedi'i goleuo yn llawn o safbwynt y Ddaear. Mae hyn yn digwydd pan fo’r Ddaear rhwng yr Haul a'r Lleuad (yn fanwl gywir, pan fo 180° o wahaniaeth yn hydredau ecliptig yr Haul a'r Lleuad). Mae hyn yn golygu bod yr hemisffêr lleuadol sy'n wynebu'r ddaear - yr ochr agosaf - wedi'i oleuo'n llawn gan yr Haul ac yn ymddangos fel disg crwn, tra bo’r ochr bellaf yn dywyll. Mae lleuad lawn yn digwydd tuag unwaith y mis.
Pan mae'r Lleuad yn symud i gysgod y Ddaear, ceir diffyg ar y Lleuad (hefyd clip neu eclips). Pan fydd hyn yn digwydd, gall wyneb y Lleuad neu ran ohono ymddangos yn gochlyd oherwydd y tonfeddi gleision a phlygiant goleuni'r haul trwy atmosffer y Ddaear.[3][4][5] Ar Leuad llawn yn unig y ceir diffyg ar y Lleuad ac ar bwyntiau yn ei chylchdro pan allai'r lleoeren basio trwy gysgod y blaned. Nid yw diffyg ar y Lleuad yn digwydd bob mis am fod cylchdro'r Lleuad yn gogwyddo 5.14° mewn perthynas â gwastad ecliptig y Ddaear; felly, mae'r Lleuad fel arfer yn pasio i'r gogledd neu'r de o gysgod y Ddaear, sydd wedi'i gyfyngu yn bennaf i'r gwastad cyfeiriol hwn. Mae diffyg ar y Lleuad yn digwydd pan mae'r lleuad lawn i'w chel o gwmpas y naill nod neu'r llall o'i gylchdro (esgynnol neu ddisgynol). Felly, mae diffyg ar y Lleuad yn digwydd tuag unwaith pob chwe mis ac yn aml tua phythefnos cyn neu ar ôl diffyg ar yr haul, sy'n digwydd yn ystod lleuad newydd o gwmpas y nod arall.
Mae'r cyfnod rhwng lleuad newydd neu lawn a'r cyfnod nesaf yr un peth, sef mis lleuadol, ar gyfartaledd yn 29.53 o ddyddiau. Felly, yn y calendrau lleuadol sydd â phob mis yn dechrau ar ddiwrnod y lleuad newydd, mae'r lleuad lawn i'w chael naill ai ar y 14eg neu'r 15fed diwrnod o'r mis lleuadol. Oherwydd bod mis calendr yn cynnwys dyddiau llawn, gall mis lleuadol fod naill ai yn 29 neu 30 diwrnod o hyd.
Lleuad fedi a lleuad hela
golyguMae lleuad fedi (hefyd lleuad y naw nos olau, lleuad gynhaeaf a lleuad chwech nos olau) a lleuad hela (hefyd lleuad gwŷr Penllyn a lleuad gwŷr Iâl) yn enwau traddodiadol ar gyfer lleuadau llawn ddiwedd yr haf neu yn yr hydref, ym misoedd Medi a Hydref yn hemisffer y gogledd. Lleuad fedi yw'r lleuad llawn agosaf at alban Elfed (22 neu 23 Medi) a gallai fod unrhyw bryd yn ystod y pythefnos cyn neu ar ôl y dyddiad hwnnw.[7] Lleuad hela yw'r lleuad lawn yn dilyn hynny.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ ""SUPER MOON" EXCEPTIONAL. BRIGHTEST MOON IN THE SKY OF NORMANDY, MONDAY, NOVEMBER 14". 2016-11-12. Cyrchwyd 2017-02-08.
- ↑ http://astrobob.areavoices.com/2016/11/10/moongazers-delight-biggest-supermoon-in-decades-looms-large-Sunday-night/
- ↑ Seidelmann, P. Kenneth (2005). "Phases of the Moon". Explanatory Supplement to the Astronomical Almanac. University Science Books. t. 478. ISBN 0-935702-68-7.
They are the times when the excess of the Moon's apparent geocentric ecliptic longitude λM over the Sun's apparent geocentric ecliptic longitude is 0, 90, 180, or 270 ...
- ↑ "Celestial Alignment without Lunar Eclipse; from google (full moon earth block sunlight) result 2". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-07. Cyrchwyd 2018-09-25.
- ↑ "tilted from the ecliptic by about 5 degrees; from google (full moon earth block sunlight) result 3". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-06-28. Cyrchwyd 2018-09-25.
- ↑ Percy, John (27 September 2010). "Why is the harvest moon so big and orange?". University of Toronto. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2018-09-25.
- ↑ "What is a Harvest Moon?". Old Farmer's Almanac.