Baner drilliw yw baner Libanus a fabwysiadwyd ar 7 Rhagfyr, 1943, yn dilyn annibyniaeth y wlad ar Ffrainc. Dyluniwyd fel baner amhleidiol, heb unrhyw gysylltiadau â grwpiau crefyddol Libanus. Cynrychiolir hunan-aberth gan y stribedi coch ar frig a gwaelod y faner, ac heddwch gan ei chanol gwyn. Arwyddlun y wlad ers amser y Brenin Selyf – 2000 o flynyddoedd yn ôl – yw cedrwydden Libanus, a ymddangosir yng nghanol y faner. Mae'n cynrychioli sancteiddrwydd, tragwyddoldeb a chryfder.

Baner Libanus

Ffynonellau golygu

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
  Eginyn erthygl sydd uchod am Libanus. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.