Baner drilliw o ddau stribed glas a stribed melyn yn y canol, a chroes wen gydag amlinelliad coch yng nghanol y stribed melyn, yw baner Madeira. Mae glas yn cynrychioli'r môr a melyn yn cynrychioli'r tir. Croes Urdd Crist yw'r symbol yng nghanol y faner sy'n cofio'r Brenin Harri'r Mordwywr a goloneiddiodd yr ynysoedd. Mabwysiadwyd baner Madeira ar 28 Gorffennaf 1978. 2:3 yw cymhareb y faner hon.[1]

Baner Madeira

Cyfeiriadau golygu

  1. Znamierowski, Alfred. The World Encyclopedia of Flags (Llundain, Anness, 2010), t. 151.

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  • (Saesneg) Madeira (Flags of the World)