Madeira
Clwstwr o ynysoedd o darddiad folcanig yng ngogledd Cefnfor Iwerydd yw Madeira. Mae'n un o ranbarthau ymreolaethol Portiwgal. Ynys Madeira yw'r brif ynys; mae'r ynysoedd eraill yn cynnwys Porto Santo i'r gogledd-ddwyrain a dau grŵp o ynysoedd anghyfannedd i'r de-ddwyrain: y Desertas a'r Selvagens. Yn 2011 roedd y boblogaeth yn 267,785. Y prifddinas yw Funchal a leolir ar arfordir heulog y de; mae bron i hanner y boblogaeth yn byw yn Funchal.
Arwyddair | Das Ilhas as Mais Belas e Livres |
---|---|
Math | un o ranbarthau ymreolaethol Portiwgal, tiriogaeth dramor gyfannol, isranbarth Portiwgal, etholaeth |
Prifddinas | Funchal |
Poblogaeth | 250,769 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Hino da Região Autónoma da Madeira |
Pennaeth llywodraeth | Miguel Albuquerque |
Cylchfa amser | Western European Time |
Daearyddiaeth | |
Sir | Portiwgal |
Gwlad | Portiwgal |
Arwynebedd | 801 km² |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Cyfesurynnau | 32.75°N 17°W |
PT-30 | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Legislative Assembly of Madeira |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | President of the Regional Government of Madeira |
Pennaeth y Llywodraeth | Miguel Albuquerque |
Mae'n nodedig am ei win (win Madeira), ac fel llecyn twristaidd, ac mae'r ynys yn cynhyrchu banana, paw paw, gellyg pigog, tomatos, siwgr câns a lemonau. Tyfir y rhain ar lethrau a dyllwyd ganrifoedd yn ôl.
Gyda'r chwaer ynys Azores, mae'n un o ddwy ranbarth ymreolaethol ym Mhortiwgal. Ceir disgrifiadau o'r ynysoedd o gyfnod y Rhufeiniaid ond nid hawliwyd yr ynys gan Bortiwgal tan 1419, a chychywynwyd ei gwladych un 1420. Dyma'r ynys gyntaf i Bortiwgal ei meddiannu, a dilynwyd hyn gan nifer o diroedd rhwng 1415 a 1542.
Mae'r gaeafau'n fwyn a'r hafau'n hir, heb fod yn rhy boeth. Daw oddeutu miliwn o ymwelwyr yma am seibiant yn flynyddol, yn benaf am ei thywydd hyfryd, ei hamrywiaeth blodau ac adar a'i golygfeydd.[1] Mae ei choedwigoedd llawryf yn hynafol ac yn cael eu gwarchod gan UNESCO, sy'n Safle Treftadaeth y Byd. Ni anrhaethwyd fauna a flora (planhigionac anifeiliaid) yr ynys gan yr Oes Iâ Ewropeaidd. Y prif harbwr yw Funchal, y brifddinas, sef porthladd mwyaf Portiwgal o ran cychod criws a llongau pleser eraill.[2] Madeira yw ail ranbarth mwyaf cyfoethog Portiwgal, o ran ei GDP (Cynnyrch mewnwladol crynswth) y pen, gyda Lisbon ychydig yn well na hi.[3]
Daearyddiaeth
golyguCymhariaeth gydag Ynys Môn
golyguLleolir y clwstwr hwn o ynysoedd tua 520 km (280 mi) o arfordir Affrica a 1,000 km (540 mi) o Gyfandir Ewrop. Mae'r daith yno mewn awyren o brifddinas Portiwgal, sef Libbon yn awr a hanner.[4] Mae'n rhan o gefnen daearegol enfawr a geir gan mwyaf o dan y môr, sef "Cefnen Tore-Madeira". Mae'r gefnen hon yn gorwedd o'r gogledd-i'r-gogledd-ddwyrain i'r de-dde-orllewin, ac yn ymestyn am dros 1,000 cilometr (540 milltir).
Hinsawdd
golyguDisgrifir hinsawdd Madeia fel Hinsawdd y Canoldir (Dosbarthiad Köppen climate: Csa/Csb).[5] Ceir cryn wahaniaeth rhwng hinsawdd y gogledd a'r de, fel a geir rhwng hinsawdd yr ynysoedd hefyd. Mae'n amrywio rhwng mynyddoedd hinsawdd gwlyb a llaith (drwy'r flwyddyn) a diffeithdir sych, cras ynysoedd y Salvagen. Mae dylanwad Llif y Gwlff ar yr hoinsawdd yn drwm a gan gerrynt y Caneri, sy'n caniatau tymheredd mwynach; yn ôl Instituto de Meteorologia, tymheredd blynyddol, cyfartalog Funchal yw 19.6 °C (67.3 °F) am 1980–2010. Rhwng 1960–1990 cododd y tymheredd ar arfordir y de dros 20 °C (68 °F) mewn cyfartaledde. Ar lethrau uchaf Madeira ceir dros 50 modfedd o law y flwyddyn, gyda'r rhan fwyaf yn disgyn rhwng Hydref ac Ebrill.
Enwogion
golygu- José Vicente de Freitas (1869-1952), Prif Weinidog Portiwgal 1928-1929
- Cristiano Ronaldo (g. 1985), chwaraewr pêl-droed
Llifogydd Madeira 2010
golyguLladdwyd 43 o bobl yn y llifogydd ym Madeira ar 20 Chwefror 2010.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Hotelaria da Madeira suaviza quebras em 2010 apesar de impacto devastador dos temporais". presstur.com. October 2, 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 16 Medi 2011.
- ↑ "Madeira welcomes most cruisers". The Portugal News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-12. Cyrchwyd 12 Mawrth 2013.
- ↑ "New Eurostat website - Eurostat". Cyrchwyd 10 Gorffennaf 2016.
- ↑ "Madeira Islands Tourism". Madeiraislands.travel. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-05-30. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2010. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "World Map of Köppen−Geiger Climate Classification".