Baner Maleisia
Baner o stribedi llorweddol coch a gwyn gyda chilgant a seren melyn ar ganton glas yw baner Maleisia. Mae glas y canton yn cynrychioli undod pobl Maleisia, y cilgant a'r seren yn cynrychioli crefydd Islam, a'r 14 stribed yn cynrychioli 14 talaith y ffederasiwn. Mae gan y seren 14 pwynt hefyd i gynrychioli undod y taleithiau. Melyn yw lliw traddodiadol arweinwyr Maleiaidd, ac mae coch a gwyn yn lliwiau traddodiadol yn Ne Ddwyrain Asia.
Crëwyd baner gyntaf Malaia annibynnol ar sail baner yr Unol Daleithiau, ond gyda symbolaeth Islamaidd. Roedd ganddi 11 o stribedi coch a gwyn a chanton glas (yn union fel baner UDA ond dau stribed yn llai) ond gyda chilgant a seren 11 pwynt melyn ar y canton. Bu'r 11 stribed a phwynt yn cynrychioli 11 talaith y ffederasiwn.
Yn 1963, ymunodd tair talaith newydd – Sabah, Sarawak a Singapôr – â Ffederasiwn Malaia i ffurfio Ffederasiwn Maleisia. Cafodd tri stribed a phwynt arall eu hychwanegu i adlewyrchu hyn. Pan ymwahanodd Singapôr yn 1965, ni newidiodd y faner. Dywedir nawr bod y pedwerydd stribed a phwynt ar ddeg yn cynrychioli ardal ffederal Kuala Lumpur.
Ffynonellau
golygu- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)