Baner Sant Kitts-Nevis

baner
(Ailgyfeiriad o Baner Saint Kitts a Nevis)

Mabwysiadwyd baner Sant Kitts-Nevis yn swyddogol ar 19 Medi 1983; fe'i dewiswyd ar ôl cystadleuaeth leol. Dyma'r faner ar gyfer Sant Kitts-Nevis, cyn-drefedigaeth Brydeinig yn y Caribî.

Baner Sant Kitts-Nevis

Dyluniad

golygu

Mae'r baner yn cymryd y lliwiau africanaidd, er bod yr ystyr yn wahanol. Rhennir y petryal gyda dau driongl: triongl gwyrdd ar ochr dde uchaf y faner, sy'n symbol o ffrwythlondeb, a'r triongl goch islaw sy'n coffáu'r frwydr yn erbyn caethwasiaeth yn ystod y cyfnod trefedigaethol.

Mae band du llydan sydd â ffin melyn wedi'i leoli ar y groeslin; mae'r lliw du yn atgoffa i'r dreftadaeth Affricanaidd.

Yn olaf, gosodir dwy seren wen yng nghanol y band, symbol o obaith a rhyddid ond hefyd o'r ddwy ynys sy'n ffurfio'r wladwriaeth.

Mae'r dyluniad yn un anarferol a dim ond un neu ddau wlad sy'n arddel streipen yn codi o'r chwith waelod i'r dde top. Baner arall debyg i hon yw baner Tansanïa a Baner Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo yn Affrica.

Baner Morwrol a Rhanbarthol

golygu

Mae'r bathodyn morlweol wedi'i seilio ar y faner y White Ensign Prydain.

Nodyn:Infobox Drapeau

Baneri Hanesyddol

golygu

Wedi yn rhan o Ynysoedd Windward Prydain tan 1958, ymgorfforwyd Sant Kitts-Nevis yn Ffederasiwn Gorllewin y Caribî tan fis Mai 1962.

Gan ei bod yn dymuno peidio â bod yn perthyn i'r Goron Prydeinig, enillodd ynysoedd Sant Kitts, Nevis ac Anguilla ym mis Chwefror 1967 statws annibyniaeth i ffurfio perthynas cysylltiedig; Sant Kitts Nevis-Anguilla gan fabwysiadu baner trilliw newydd. Roedd y faner yn cynnwys tair stribed gwyrdd fertigol i gynrychioli Sant Kitts, melyn i Nevis a glas i Anguilla. Ychwanegwyd palmwydden wedi'i arddullio yn ei ganol dri mis yn ddiweddarach ym mis Mai 1967, fel symbol o dynged, gwendid a balchder y tair ynys.

Ym mis Gorffennaf 1967, ymreolodd Anguilla o'r undeb newydd gan fabwysiadu baner ei hun. Bu'n rhaid aros nes 19 Medi 1983, nes i Sant Kitts a Nevis yn datgan ei annibyniaeth a mabwysiadu'r faner bresennol.

Cyfeiriadau

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am faner neu fanereg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.