Baner Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo

baner

Mae baner Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo (hefyd Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo) wedi gweld sawl dyluniad ers ennill annibyniaeth oddi ar Gwlad Belg yn 1960. Mabwysiadwyd cynllun y faner gyfredol ar 18 Chwefror 2006 ac mae'n addasiad ar faneri blaenorol sy'n cynnwys seren aur ar faes glas.[1]

Baner Gwer. Ddem. y Congo. Cymesuredd, 3:4)

Ni ddylid drysu Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo, sy'n gyn-drefedigaeth Belgaidd, gyda Gweriniaeth y Congo sy'n wlawriaeth cyn-drefedigaethol Ffrengig llai i'r gogledd oellewin o afon y Congo. Mae Baner Gweriniaeth y Congo yn wahanol, er fod gan y ddau linell lletraws, chwith waelod i dde uchaf ar eu baneri.

Dyluniad golygu

 
Milwyr Congo gyda'r faner wladwriaethol

Cyfeirir at gynllun y faner genedlaethol yng Nghyfansoddiad Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Erthygl 1 paragraff 2: "Ei arwyddlun yw'r faner las, ac wedi'i addurno â seren melyn yn y gornel uchaf chwith a band coch melyn fframiog yn croesi'n letraws."

Mae lliw glas yr awyr yn symbol o heddwch, mae'r streip coch yn cynrychioli gwaed y merthyron, mae'r lliw melyn yn arwydd o gyfoeth y wlad tra bod y seren melyn yn cyfeirio at wlad unedig yn addo dyfodol disglair.

Yn yr heraldiaeth, gellir disgrifio baner y DRC fel a ganlyn: Azure, gyda'r bar Gules wedi'i linio Neu, ynghyd â chanran dexter y prif seren gyda phum llec o'r un peth. Mae lliw glas y faner gyfredol yn oleuach na'r dyluniadau blaenorol.

Mae rhywun Erthygl 138 y cod cosb Congo yn ei gwneud yn drosedd i sarhau arwyddlun y wlad. Gellir deall y fraich hon fel unrhyw weithred, unrhyw weithred sy'n debygol o effeithio ar gyfanrwydd y faner neu i ddiraddio ei werth arwyddocâd a symbolaidd sy'n cynrychioli hunaniaeth ac undod cenedlaethol.

Hanes y Faner golygu

Crëwyd baner cyntaf Congo ar ran Gymdeithas Ryngwladol Affricanaidd y Brenin Leopold II o Wlad Belg, a chynrychiolodd seren bum-bwynt yn ei ganolfan yn erbyn cefndir glas tywyll. Dyluniwyd y faner gan Henry Morton Stanley, ac mae'n cynrychioli golau gwareiddiad goleuo Affrica Ddu - eironig iawn a hiliol yw'r symboliaeth yma o gofio llywodraethiant annynol y Congo o dan teyrnasiad Leopold. Defnyddiwyd y faner hon ar gyfer y Wladwriaeth Rydd Congo, yna, wedi i monopoli Leopold o'r drefedigaeth ddod i ben oherwydd canfod gwirionedd y dulliau annynol o reoli, trosglwyddyd y tiriogaeth anferth i wladwriaeth Gwlad Belg a daeth y faner yn un ar gyer y Congo Belgaidd hyd nes annibyniaeth.

Enillodd Congo ei hannibyniaeth ar 30 Mehefin, 1960. Gydag hynny, newidiwyd y faner ychydig gan ychwanegu chwe seren eu at y faner, i gynrychioli'r chwe talaith a ffurfiodd Congo ar y pryd.

Yn 1963, yn dilyn Gwrthryfel Katanga, lle ceisiodd talaith Katanga yn ne'r wlad ddatgan annibyniaeth, ac yn dilyn coup d'etat y Cadfridog Mobutu, cafodd baner newydd ei fabwysiadu. Roedd y faner yma hefyd yn las, y tro hwn gyda seren melyn sengl yn y gornel chwith uchaf am band coch croesliniol ymylon melyn ar draws y llain o'r chwith isaf i'r dde uchaf. Fe'i haddaswyd ychydig yn 1966.

Yn 1971, newidiwyd y faner ynghyd ag enw'r wlad. Roedd baner Gweriniaeth Zaire yn gefndir gwyrdd ysgafn, gyda disg melyn yn y canol gyda darlun o law Affricanaidd yn cario torch fflam goch.

Ym 1997, gyda chwymp y gyfundrefn Cadfridog Mobutu, mabwysiadwyd baner gyntaf y cyfnod annibyniaeth unwaith eto - llain las, gyda 6 seren aur ar y mast ac un seren aur fawr yng nghanol y faner. Cadwyd y chwe seren wrth y mast, er bod, bellach, wyth talaith o fewn y wladwriaeth.[2]

Yn 2005, gyda'r cyfansoddiad newydd nodwyd y bwriadu adfer y faner yn agos at ddyluniad 1966. Wedi mabwysiadu'r cyfansoddiad, dyma'r faner ddaeth yn swyddogol ar 18 Chwefror, 2006.

Hen Faneri GDdC golygu

Baneri Mudiadau Rhyddid o'r Congo golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu