Baner Saint Martin

baner

Baner Cymuned Saint Martin Ffrengig Ffrengig yw baner Ffrainc. Mae Cymuned Saint Martin Ffrengig yn rhan o gymuned Ffrainc fel collectivité d'outre-mer (COM). Mae'r gymuned Ffrangeg yn rhannu Ynys Saint Martin gyda Sint Maarten, sy'n rhan o Deyrnas yr Iseldiroedd. Mae'r ynys wedi ei lleoli yn yr Antilles ym Môr y Caribî.

Baner answyddogol, ansicr ei defnydd[1]
Baner Ffrainc a ddefnyddir yn swyddogol

Ceir dwy baner answyddogol, un sy'n arddangos arfbais y gymuned ar faes gwyn. Ceir hefyd baner mwy gyfoes sydd, ymddengys wedi ei defnyddio ers yr 1900au ond mae gwybodaeth amdanni'n annelwig.[2] Mae'r faner yn arddel maes glas gyda triongl gwyn yn disgyn o'r brig ac yn cyffwrdd gwaelod y faner i greu siâp 'Y'. Yn y canol ceir triongl coch ac uwchlaw hanner disg melyn sy'n dybiedig yno i ddarlunio haul yn codi ar y gorwel.

Map o ynys Saint Martin

Ceir hefyd faner, sydd mewn gwirionedd yn logo wedi ei rhoi ar luman, ar gyfer Collectivité' de Saint-Martin, sef y llywodraeth leol. Mae'n cynnwys enw'r ynys a'r geiriau "Saint-Martin Caraïbe Français French Caribbean" gyda rhuban yn rhannol amgylchynu'r geiriau. Mae rhan uchaf y rhuban yn dilyn siap arfordir gogledd yr ynys ac mewn gwyrdd, tra fod gweddill y rhuban mewn glas gan amlinellu yn fras, ochr orllewinnol yr ynys.

Bydd rhai hefyd yn defnyddio Arfbais Saint Martin fel baner o fath i'r Gymuned.

Cyd-destun golygu

Bu Saint Martin am flynyddoedd yn commune Ffrengig ac yn rhan o lywodraethiant Guadeloupe a oedd yn région a département tramor o Ffrainc. Yn 2003 pleidleisiodd y boblogaeth dros ymwahanu oddi ar Guadeloupe er mwyn creu cymuned collectivité d'outre-mer arwahân fel rhan o Ffrainc.[3] Ar 9 Chwefror 2007 pasiodd cynulliad Ffrainc bil yn rhoi statws COM i Saint Martin ac un arall i'r ynys Ffrengig gyfagos, Saint Barthélemy.[4] Mae Saint Martin yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd gan ei fod yn rhan o Ffrainc.

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu