Cymuned Saint Martin Ffrengig
Rhan o'r Antilles Lleiaf, ym Môr y Caribî, ydy Cymuned Saint Martin Ffrengig (Ffrangeg: Collectivité de Saint-Martin, neu Saint-Martin). Mae'n diriogaeth Ffrainc. Cyn 2007 roedd yn rhan o département tramor Guadeloupe, ond ar ôl hynny cafodd statws collectivité d'outre-mer. Mae iddi faner answyddogol ond baner Ffrainc yw'r faner swyddogol ryngwladol gydnabyddiedig. Fe'i lleolir yn rhan ogleddol ynys Sant Martin (tua 60% o'r ardal); mae rhan ddeheuol yr ynys yn ffurfio gwlad Sint Maarten, sy'n perthyn i'r Iseldiroedd.
Math | overseas collectivity of France |
---|---|
Enwyd ar ôl | Sant Martin |
Prifddinas | Marigot |
Poblogaeth | 32,358 |
Sefydlwyd | |
Anthem | La Marseillaise |
Cylchfa amser | UTC−04:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffrangeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Sant Martin, French West Indies |
Sir | Ffrainc |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 53.2 km² |
Yn ffinio gyda | Sint Maarten |
Cyfesurynnau | 18.0753°N 63.06°W |
FR-MF | |
Arian | Ewro |
Lleolir canolfan weinyddol y Cymuned ym Marigot.
Hanes
golyguDaeth yr ynys yn un o'r canolfannau masnachol ers dechrau gwladychiad America, ac yn fan brwydro rhwng yr Iseldiroedd a Ffrainc, 1672 - 1679. Meddianwyd gan Loegr yn 1689. Alltudwyd y Saeson i Saint Kitts wedi Cytundeb Heddwch Risvik 1697 y caniateid iddynt ddychwelyd. Yn 1750 adeiladwyd Fort Marigo. Meddiannodd y Saeson yr ynys drachefn yn 1756 - 1763, 1781 - 1783 ac yn ystod y Chwyldro Ffrengig. Buont hefyd mewn meddiant o'r ynys rhwng 1810 - 1815 yn ystod Rhyfeloedd Napoleon yn ar gyfandir Ewrop.
Yn 1839 cafwyd cytundeb rhwng Ffrainc a'r Iseldiroedd gan gytuno i rannu ynysoedd a'u gweithgareddau gyda rhan ogleddol yr ynys yn eiddo i Ffrainc.
Yn 1963 cafodd Saint-Martin hawliau is-gyngor. Yn 1965 dechreuodd ddiwydiant twristiaeth ar yr ynysoedd o ddifri ac yn 1972 agorwyd Maes Awyr Grand Kaso gyda'r awyren supersonig gyntaf, Concorde yn glanio yno yn 1981.
Ar 16 Rhagfyr 1989, cyfarfu Arlywydd Ffrainc Francois Mitterand ag Arlywydd yr Undol Daleithiau, George H. W. Bush ar yr ynys.
Daearyddiaeth
golyguMae'r ynys wedi'i ffinio i'r gogledd gan ynys Anguilla.
Mae rhan ganol Sant Martin yn fryniog. Y pwynt uchaf yw'r 'Pic Paradis' sydd 414 medr o uchder. Yn y de-orllewin geir Lagŵn Simpson. Mae rhai ynysoedd bychain o gylch y brif ynys, y fwyaf ohonynt yw Tintamatė. Corn canonig yr ynys yw'r pwynt mwyaf gorllewinol Undeb Ewropeaidd.
Ceir hinsawdd trofannol. Mae'r tymheredd rhwng 24 a 30 °C, y glawiad blynyddol cyfartalog yn 1000 mm. Budd corwyntoedd yn bwrw'r ynys hefyd.
Y prif dref yw Marigot.
Economi
golyguY prif sector economaidd yw twristiaeth (85% o'r cyflogedig). Oherwydd cyfleoedd cyfyngedig ar gyfer amaethyddiaeth a physgota, mae'r rhan fwyaf o gynhyrchion bwyd yn cael eu mewnforio.
Fe'i gwasanaethir gan Maes Awyr Rhyngwladol Tywysog Julian, sydd wedi ei lleoli yn Sint Maarten yr Iseldiroedd. Ceir hefyd Maes Awyr L'Esperance lleol. O Marigo mae fferi i Anguilla.
Demograffeg
golyguMae mwyafrif y boblogaeth yn cynnwys pobl o darddiad cymysg (Mullahs, Metisai a Du, gwyn (yn bennaf Ffrangeg, Indiaid.
Yr iaith swyddogol yw Ffrangeg. Mae hefyd siaradwr Creole (yr Antilles Ffrengig), Papiament, Saesneg, Iseldireg, Sbaeneg.
Mae'r rhan fwyaf o gredinwyr yn Catholigion a ceir hefyde Protestaniaid, Tystion Jehovah, ac Hindwiaid.
1962 | 1968 | 1975 | 1982 | 1990 | 1999 | 2002 |
---|---|---|---|---|---|---|
4 001 | 4 992 | 5 550 | 8 072 | 28 518 | 29 078 | 31 397 |
Cyd-destun
golyguBu Saint Martin am flynyddoedd yn commune Ffrengig ac yn rhan o lywodraethiant Guadeloupe a oedd yn région a département tramor o Ffrainc. Yn 2003 pleidleisiodd y boblogaeth dros ymwahanu oddi ar Guadeloupe er mwyn creu cymuned collectivité d'outre-mer arwahân fel rhan o Ffrainc.[1] Ar 9 Chwefror 2007 pasiodd cynulliad Ffrainc bil yn rhoi statws COM i Saint Martin ac un arall i'r ynys Ffrengig gyfagos, Saint Barthélemy.[2] Mae Saint Martin yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd gan ei fod yn rhan o Ffrainc.