Baner ddeulliw lorweddol yw baner Singapôr gyda stribed is gwyn a stribed uwch coch a chilgant a phum seren wen yng nghornel uwch yr hòs. Mabwysiadwyd ar 3 Rhagfyr 1959 yn sgil annibyniaeth y wlad oddi ar Brydain. Ni newidiodd y faner pan oedd Singapôr yn un o daleithiau Maleisia yn y cyfnod 1963–5.[1]

Baner Singapôr

Mae'r coch yn cynrychioli brawdgarwch a chydraddoldeb, y gwyn yn cynrychioli purdeb a rhinwedd, a'r cilgant yn symbol o dwf y wlad ifanc. Mae'r pum seren yn dynodi democratiaeth, heddwch, datblygiad, cyfiawnder, a chydraddoldeb. Yn wahanol i sawl baner genedlaethol arall sydd yn cynnwys y seren a chilgant, nid yw'r symbolau hynny ar faner Singapôr yn gysylltiedig ag Islam.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Flag of Singapore. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Awst 2017.