Baner Taleithiau Ffederal Micronesia
Mabwysiadwyd baner Taleithiau Ffederal Micronesia ar 30 Tachwedd 1978. Mae ganddi maes glas golau (i gynrychioli'r Môr Tawel) gyda phedair seren wen (i gynrychioli'r bedair grŵp o ynysoedd, sef taleithiau'r ffederasiwn: Chuuk, Kosrae, Pohnpei, ac Yap) yn y canol, wedi'u gosod fel pwyntiau'r cwmpawd. Cyn annibyniaeth yn 1979 roedd Micronesia'n rhan o Ymddiriedolaeth Tiriogaeth Ynysoedd y Môr Tawel y Cenhedloedd Unedig, a weinyddwyd gan yr Unol Daleithiau; mae lliwiau'r faner yn debyg i liwiau baner y CU, a'r syniad o bob seren yn cynrychioli talaith yn debyg i bob seren ar faner yr UD yn cynrychioli talaith.
Ffynonellau
golygu- Complete Flags of the World (Dorling Kindersley, 2002)