Y Cenhedloedd Unedig
Sefydliad rhyngwladol gyda 192 o aelodau gwladwriaethol (2006) yw'r Cenhedloedd Unedig (CU). Mae bron pob gwlad yn aelod o'r sefydliad a sefydlwyd ar 24 Hydref 1945 yn San Francisco, ar ôl Cynhadledd Dumbarton Oaks yn Washington, DC. Cynhalwyd ei Gynulliad Cyffredinol cyntaf ar 10 Ionawr, 1946 yn Church House, Llundain. Arwyddwyd y cytundeb a ffurfiodd y Cenhedloedd Unedig ar 26 Mehefin 1945, a daeth i rym ar 24 Hydref y flwyddyn honno.
Gall unrhyw wlad sy'n parchu heddwch yn ogystal â bod yn barod i dderbyn oblygiadau Siarter y CU ac sydd â'r gallu a'r parodrwydd i gyflenwi'r oblygiadau hynny ym marn y cynhedloedd Unedig fod yn aelod.
Ysgrifennydd Cyffredinol y CU yw Ban Ki-moon.
Gweler hefydGolygu
- Cronfa Plant y Cenhedloedd Unedig (UNICEF)
- Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig
- Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig
- Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig
- Mudiad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig (UNESCO)
- Sefydliad Iechyd y Byd (SIB/WHO)
- UNRWA, yr asiantaeth sy'n gofalu am ffoaduriaid Palesteinaidd