Baner ddeuliw fertigol o stribedi melyn a gwyn yw baner y Fatican. Yng nghanol y stribed gwyn mae arwyddlun y Babaeth, sef allweddi Sant Pedr gyda choron y pab uwch eu pennau.

Baner y Fatican

Cynrychiola'r lliwiau melyn a gwyn lliwiau allweddi'r arwyddlun, sef aur ac arian. Defnyddiwyd fersiwn o'r faner heb yr arwyddlun o 1808 tan 1870, pan gafodd y Babaeth ei huno â gweddill yr Eidal. Mabwysiadwyd y faner gyfredol ar 7 Mehefin, 1929, pan enillodd y Fatican ei hannibyniaeth.

Ffynonellau

golygu
  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
  Eginyn erthygl sydd uchod am faner neu fanereg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am y Fatican. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.