Baner y Gambia

baner

Mabwysiadwyd baner y Gambia neu baner Gambia yn swyddogol ar 18 Chwefror 1965 gydag annibyniaeth Gambia oddi ar ei chyn-feistri, Prydain. Mae'r faner yn un trilliw llorweddol gyda stibedi (o'r top i'r gwaelod) coch, glas a gwyrdd gyda ymylon gwyn o amgylch y lôn las ganol.

Baner Gambia, cymesuredd, 2:3

Symbolaeth golygu

Mae gan y pedwar lliw yn y faner ystyr symbolaidd.

Coch - cynrychioli'r haul a'r gwairoedd glaswellt
Glas - Afon Gambia sy'n llifo drwy'r Gambia
Gwyrdd - y tir, a'r llwyni a'r cynrychioli ar y cyrion gwyn

Dyluniad golygu

Nid yw'r bandiau coch, glas a gwyrdd yr un maint. Mae'r striben goch a gwyrdd un gwaith a hanner yn lletach na'r stribed las. Mae'r stribed goch a gwyrdd bob un rhan o dair uchder y faner a'r lon las yw 2/9. Ynghyd â'r ffiniau, mae'r lôn las hefyd yn draean o uchder. Mae'r ymylon felly yn 1/18 o uchder i'r faner.

 
Dyluniad a chymesuredd y faner

Hanes golygu

Hyd nes annibyniaeth ym 1965, roedd y Gambia o dan reolaeth Prydain. Dechreuodd y Prydeinwyr ymnsefydlu ar hyd glannau'r afon Gambia yn 1661 pan meddianwyd James Island, oddi hynny dechreuwyd adeiladu caerau ar ei hyd. Daeth yn 'protectorate' o dan adain Sierra Leone rhwng 1821 a 1888.[1] Gyda dod yn 'Crown Colony' yn 1888 roedd gan Gambia yr hawl i addasiad ei hun o faner trefedigaethol Prydain (y Blue Ensign Brydeinig) gyda'r arwyddlun ei hun.[2]

Dyluniwyd baner y wlad annibynnol gan Louis Thomasi, a weithiau fel cyfrifydd.[3] Mae'n un o'r ychydig faneri Affricanaidd sydd ddim mewn lliwiau plaid wleidyddol na lliwiau'r mudiad Pan-Affricanaidd.[4]

Ni newidiwyd y faner adeg cydffederasiwn Senegambian o 1982 i 1989.

Baneri eraill golygu

Dolenni golygu

  • Gambia gan Flags of the World.

Cyfeiriadau golygu

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-16. Cyrchwyd 2019-03-15.
  2. https://www.britannica.com/topic/Gambia-flag-of-The
  3. https://books.google.com/books?id=ZIpEAQAAIAAJ&q=flag+of+the+gambia+louis+thomasi&dq=flag+of+the+gambia+louis+thomasi&hl=en&sa=X&ei=mzJ9U8bpC4Sr7AbB_YDYAg&redir_esc=y
  4. https://books.google.co.uk/books?id=ZauSgqSl6ekC&redir_esc=y
Chwiliwch am Baner y Gambia
yn Wiciadur.