Y Gambia
Gwlad fechan ar arfordir Gorllewin Affrica yw Y Gambia (Gweriniaeth y Gambia yn swyddogol). Mae'r Gambia wedi'i hamgylchu yn gyfangwbl gan Senegal a hi yw'r wlad leiaf ar dir mawr Affrica.[1] Llain o dir ar hyd glannau Afon Gambia yw'r wlad; afon a roddodd ei henw i'r wlad. Mae'r Gambia wedi'i hamgylchynu gan Senegal, heblaw am ei harfordir gorllewinol sy'n ffinio ar Gefnfor yr Iwerydd. Arwynebedd y wlad yw 10,689km² ac mae ei phoblogaeth oddeutu 2,639,916 (2021)[2].
Gweriniaeth Gambia | |
Arwyddair | Cynnydd, Heddwch, Ffyniant |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad |
Enwyd ar ôl | Afon Gambia |
Prifddinas | Banjul |
Poblogaeth | 2,639,916 |
Sefydlwyd | 18 Chwefror 1965 (Annibyniaeth oddi wrth Lloegr (y DU)) |
Anthem | Dros y Gambia, ein Mamwlad |
Pennaeth llywodraeth | Adama Barrow |
Cylchfa amser | UTC+00:00, Africa/Banjul |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gorllewin Affrica |
Gwlad | Y Gambia |
Arwynebedd | 11,300 ±1 km² |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Yn ffinio gyda | Senegal |
Cyfesurynnau | 13.5°N 15.5°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Cenedlaethol y Gambia |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd y Gambia |
Pennaeth y wladwriaeth | Adama Barrow |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd y Gambia |
Pennaeth y Llywodraeth | Adama Barrow |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $2,038 million, $2,273 million |
Arian | dalasi |
Cyfartaledd plant | 5.717 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.5 |
Banjul yw prifddinas Gambia a hi yw ardal fetropolitan fwyaf y wlad.[3] Ffermio, pysgota a thwristiaeth sy'n dominyddu economi'r Gambia. Yn 2015, roedd 48.6% o'r boblogaeth yn byw mewn tlodi. Mewn ardaloedd gwledig, mae tlodi hyd yn oed gryn dipyn yn uwch: 70%.
Mae'r Gambia yn debyg i lawer o genhedloedd eraill yng Ngorllewin Affrica yn y fasnach gaethweision, a oedd y ffactor allweddol wrth sefydlu a chadw cytref ar Afon Gambia, yn gyntaf gan Bortiwgal, pan gelwid yr ardal yn "A Gâmbia". Yn ddiweddarach, ar 25 Mai 1765, gwnaed y Gambia yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig pan gymerodd lywodraeth 'Prydain Far' reolaeth ohoni'n ffurfiol, gan sefydlu 'Gwladfa ac Amddiffynfa Gambia' (Gambia Colony and Protectorate).
Ym 1965, enillodd y Gambia annibyniaeth o dan arweinyddiaeth Dawda Jawara, a fu'n arweinydd ar y wlad nes i Yahya Jammeh gipio grym mewn coup d'état di-drais yn 1994. Daeth Adama Barrow yn drydydd arlywydd Gambia yn Ionawr 2017, ar ôl trechu Jammeh yn etholiadau Rhagfyr 2016.[4] Derbyniodd Jammeh canlyniad yr etholiad, i ddechrau, yna gwrthododd eu derbyn, a sbardunodd argyfwng cyfansoddiadol ac ymyrraeth filwrol gan 'Gymuned Economaidd Gwladwriaethau Gorllewin Affrica', gan arwain at alltudiaeth Jammeh.[5][6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Hoare, Ben. (2002) The Kingfisher A-Z Encyclopedia, Kingfisher Publications. tud. 11. ISBN 0-7534-5569-2.
- ↑ https://data.worldbank.org/indicator/SP.POP.TOTL?locations=GM.
- ↑ "Banjul | national capital, The Gambia". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 7 Ebrill 2020.
- ↑ Wiseman, John A. (2004) Africa South of the Sahara 2004 (33rd edition): The Gambia: Recent History, Europa Publications Ltd. p. 456.
- ↑ Maclean, Ruth (21 Ionawr 2017). "Yahya Jammeh leaves the Gambia after 22 years of rule". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Mai 2017. Cyrchwyd 17 Mai 2017.
- ↑ "Gambia's Yayah Jammeh confirms he will step down". Al Jazeera. 20 Ionawr 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Ionawr 2017. Cyrchwyd 21 Ionawr 2017.