Baner y Gwrthryfel Arabaidd a Theyrnas Hijaz
Mabwysiadwyd baner y Gwrthryfel Arabaidd ym 1917. Roedd gan y faner hon tri stribed llorweddol: y stribed uwch yn ddu, y canol yn wyrdd, a'r stribed isaf yn wyn (i gynrychioli teuluoedd Islamaidd yr Abbasid, yr Alid a'r Umayyad),[1] gyda thriongl coch yn yr hòs i symboleiddio brenhinllin y Hasimiaid.[2] Dyluniwyd y faner gan Syr Mark Sykes, a newidiwyd arlliw'r coch gan y Sharif Hussein, arweinydd y Gwrthryfel Arabaidd. Gorchmynodd Sykes i'r swyddfeyd cyflenwi milwrol Prydeinig yng Nghairo cynhyrchu baneri a'u danfon i'r lluoedd Arabaidd.[3] Codwyd y faner yn gyntaf ar 30 Mai 1917.[4]
Math o gyfrwng | baner |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1916 |
Ym 1920 cydnabuwyd annibyniaeth Teyrnas Hijaz ar Ymerodraeth yr Otomaniaid a mabwysiadwyd yn faner genedlaethol y wladwriaeth newydd gan newid trefn y stribedi fel bod y stribed canol yn wyn a'r stribed isaf yn wyrdd.[2]
Hon oedd y faner gyntaf i ddefnyddio'r lliwiau pan-Arabaidd,[4] ac mae'n sail i ddyluniadau baneri Palesteina a Gwlad Iorddonen.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Nicolle, David. Lawrence and the Arab Revolts, rhif 208 yng nghyfres Men-at-Arms (Rhydychen, Osprey, 1989 [2007]), t. 45.
- ↑ 2.0 2.1 Ryan, Siobhán (gol.) Complete Flags of the World (Llundain, Dorling Kindersley, 2002), t. 7.
- ↑ Fromkin, David. A Peace to End All Peace: The Fall of the Ottoman Empire and the Creation of the Modern Middle East (Efrog Newydd, Avon, 1989), t. 315.
- ↑ 4.0 4.1 Znamierowski, Alfred. The World Encyclopedia of Flags (Llundain, Anness, 2010), t. 122.
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) Baner Teyrnas Hijaz 1915-1925 ar wefan Flags of the World