Hussein bin Ali, Sharif Mecca
Califf (1854-1931)
Sharif Mecca oedd Sayyid Hussein bin Ali, GCB (1853/1854 – 4 Mehefin 1931) (Arabeg: حسین بن علی; Ḥusayn bin ‘Alī) a hefyd Emir Mecca o 1908 hyd 1917, pan datganodd ei hunan yn Frenin Hijaz, gan dderbyn cydnabyddiaeth ryngwladol i'w deyrnas newydd. Dechreuodd y Gwrthryfel Arabaidd ym 1916 yn erbyn Ymerodraeth yr Otomaniaid yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ym 1924, pan diddymwyd Califfiaeth yr Otomaniaid, datganodd ei hunan yn Galiff yr holl Fwslimiaid. Rheolodd Hijaz nes iddo ildio'i deyrnas a'i holl deitlau seciwlar i'w fab hynaf Ali ym 1924, yn dilyn ei drechiad gan y Brenin Ibn Saud.
Hussein bin Ali, Sharif Mecca | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | c. 1853 ![]() Istanbul ![]() |
Bu farw | 4 Mehefin 1931 ![]() Amman ![]() |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Otomanaidd, Teyrnas Hijaz ![]() |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines, gwleidydd, Califf ![]() |
Swydd | King of Hejaz, Sharif of Mecca, Califf ![]() |
Tad | Ali Bin Mohammed Bin Abdul Moin ![]() |
Priod | Adila Khanum ![]() |
Plant | Abdullah I, brenin Iorddonen, Ali of Hejaz, Faisal I, brenin Irac, Prince Zeid bin Hussein ![]() |
Perthnasau | Muhammad Ibn Abd Al-Mu'in, Awn ar-Rafiq ![]() |
Llinach | Hashimiaid ![]() |
Gwobr/au | Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Supreme Order of the Renaissance, Nishan Mohamed Ali, Order of Osmanieh, Grand Cordon of the order of Nichan Iftikhar, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd ![]() |