Mae'r Bansenchas neu Ban-shenchus ("Hanes gwragedd": Gwyddeleg ban "merch(ed)" + senchas "hanes, stori") yn destun Gwyddeleg canoloesol sy'n rhestru gwragedd nodedig y byd o'r cychwyn, gyda'r pwyslais ar wragedd Iwerddon.

Mae'n cychwyn gyda Efa a merched eraill o'r traddodiad Beiblaidd ac yn parhau trwy gymeriadau o fytholeg gwlad Groeg a Rhufain i wragedd chwedlonol a hanesyddol Iwerddon.

Un o ffynonellau'r awdur anhysbys ar gyfer yr adran olaf yw'r Lebor Gabála Érenn.

Cyfeirir at Ragnell, mam Gruffudd ap Cynan ynddo.