Casgliad o lyfrau sanctaidd yn yr iaith Roeg a'r iaith Hebraeg yw'r Beibl, neu'r Beibl Cysegr-lân yn llawnach. Yn y traddodiad Cristnogol, gelwir y llyfrau Hebraeg yn Hen Destament a'r llyfrau Groeg yn Destament Newydd.

Tudalen deitl y Beibl Cymraeg cyntaf gan William Morgan

Cyfieithwyd y Beibl i'r Gymraeg gan yr Esgob William Morgan.

Beiblau Cymraeg golygu

Cymharu'r cyfieithiadau golygu

Cymharu adnodau (Ioan 3:16) mewn gwahanol gyfieithiadau
Cyfieithiad Ioan 3:16
Beibl William Morgan, 1588 Canys felly y cârodd Duw y bŷd, fel y rhoddodd efe ei uni-genedic fab, fel na choller nêb a'r y fydd yn crêdu ynddo ef, eithꝛ caffael o honaw ef fywyd tragywyddol.
Beibl William Morgan, 1620 Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig-anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol.
Y Beibl Cymraeg Newydd, 1988 Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy'n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.
beibl.net gan Arfon Jones, 2008 Ydy, mae Duw wedi caru’r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy'n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.

Testament William Salesbury, 1567 golygu

Yn Gymraeg, enwau pobl a gysylltir yn bennaf gyda'r gwahanol argraffiadau. Y cyntaf oedd Testament William Salesbury, 1567. Mae'r enw dipyn bach yn gam­arweiniol, gan i Salesbury gael help gan yr Esgob Richard Davies a chan Thomas Huet, Tyddewi.[1]

Ond y mae'r traddodiad yn iawn yn gwobrwyo Salesbury â chymaint o'r clod - onid ei egni a'i athrylith ef yn bennaf a sicrhaodd y cyhoeddiad cyntaf yn y Gymraeg? Mae tadogi'r cyfrifoldeb am Feibl 1588 ar yr Esgob William Morgan yr un mor gywir, er i hwnnw hefyd dderbyn llawer o help gan eraill.

Beibl Parry, 1620 golygu

Ond nid yw'r enw "Beibl Parry" mor gywir o bell ffordd â'r rhai blaenorol. Dyma'r enw a roddir ar ail argraffiad y Beibl cyfan, a argraffwyd ym 1620. Esgob Llan­elwy oedd Parry, ac yr oedd ei wraig yn chwaer i wraig un o ysgolheigion mwyaf yr iaith Gymraeg, y Dr. John Davies, Mallwyd. Erbyn hyn mae efrydwyr y Beibl yn hyderus mai John Davies, ac nid Richard Parry, oedd yn bennaf gyfrifol am yr argraffiad anferth, safonol hwn.

Y Beibl Bach, 1630 golygu

Ond ni fynnai neb ddadlau â llysenw'r argraffiad nesaf, y Beibl a gyhoeddwyd ym 1630. Roedd cyfrol yr Esgob Morgan yn fawr, a chyfrol Parry yn enfawr - Beiblau i'w darllen yn yr eglwysi oedden nhw. Ond Beibl i'r bobl oedd y nesaf, a'i enw hyd heddiw yw "Y Beibl Bach". A bach ydyw - o ran maint - a rhaid bod ein hynafiaid wedi gwneud cryn gam a'u llygaid wrth bori dros y print mân.

Beibl Cromwell, 1654 golygu

Bu'n rhaid disgwyl am fwy nag ugain mlynedd cyn yr argraffiad nesaf, ac y mae i hwn enw rhyfedd iawn - Beibl Cromwell, 1654. Er gwaethaf ei dras Gymreig, ni wyddai Cromwell ddim Cymraeg, a'r unig esboniad ar y teitl yw fod Cromwell wedi cyfrannu'n ariannol tuag at y gost o gyhoeddi'r gyfrol.

Beibl y Welsh Trust, 1677 golygu

Beth bynnag, wedi Beibl Cromwell, bu'n rhaid i'r Cymry aros chwarter canrif am argraffiad arall, ac er nad oes llysenw traddodiadol i hwnnw, 'does dim dwywaith mai Beibl Stephen Hughes, y golygydd, neu Beibl y Welsh Trust, y cyhoeddwyr ddylai fod yn enwau ar argraffiad 1677.

Beibl yr Esgob Lloyd o Lanelwy, 1690 golygu

Daeth argraffiad arall ar ôl bwlch o ddeuddeng mlynedd, ym 1690, ac y mae traddodiad wedi bedyddio hwnnw fel Beibl yr Esgob Lloyd o Lanelwy, er bod cryn amheuaeth a fedrai yr Esgob Gymraeg o gwbl. Nid oes gair da i Feibl Lloyd o ran cywirdeb, ond bu'n rhaid aros eto dros chwarter canrif am Feibl arall, sef Beibl Moses Williams.

Hwn oedd Beibl cyntaf yr S.P.C.K., oedd wedi bod yn cyn­hyrchu eisoes gryn nifer o lyfrau duwiol Cymraeg. Gwyddom lawer am y gwaith o'i gyhoeddi, ac fel y bu i'r golygydd, Moses Williams, ysgolhaig Cymraeg gorau ei ddydd, deithio trwy Gymru yn hel tanysgrifiadau. Roedd yr argraffiad cryno hwn yn boblogaidd iawn.

Beibl Richard Morris, 1740au golygu

Parhaodd gweithgarwch yr SPCK, ar ôl marwolaeth Moses Williams, a phan fu galw ym mhedwardegau'r 18g am argraffiad arall, cymerodd y Gymdeithas bender­fyniad syfrdanol. Am y tro cyntaf, gofynnwyd i leygwr fod yn olygydd y gyfrol, nid o ran ei wybodaeth Ysgrythurol, ond, mae'n debyg, oherwydd nad oedd ymhlith yr offeiriaid Cymraeg neb oedd yn gystal ysgolhaig Cymraeg â Richard Morris, Llundain, un o Forrisiad Môn.

Ond yr oedd y Gymdeithas yn llygaid ei lle wrth ofyn iddo; cafwyd gwaith sy'n ddihareb o gywirdeb orgraff ac argraff hyd heddiw.

Beibl Peter Williams, 1770 golygu

Daeth chwyldro arall ym 1770 pan ddaeth y fersiwn fwyaf adnabyddus o'r holl Feiblau diweddar allan, sef Beibl Peter Williams. Roedd y cyhoeddiad hwn yn chwyldro, oherwydd iddo fod y Beibl cyntaf i'w argraffu yng Nghymru.

Roedd Peter Williams a'r argraffydd, John Ross Caerfyrddin, yn torri'r fraint a sicrhaodd na fedrai neb ond Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, ac Argraffwyr y Brenin, gyhoeddi'r Beibl. Esgus Peter Williams, mae'n debyg, oedd mai Esboniad oedd ei waith ef, gyda'r testun ynghlwm wrtho. Beth bynnag, ni feiddiai neb ei erlid yn gyfreithiol, a gwerthwyd ugeiniau o filoedd o gopïau o sawl argraffiad o waith Peter Williams, ac y mae enw ei Feibl ar lafar gwlad hyd heddiw.

Llyfrau'r Hen Destament golygu

Llyfrau'r Apocryffa golygu

Llyfrau'r Testament Newydd golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gerald Morgan (Awst 1977). ENWAU'R BEIBLAU gan Gerald Morgan. Cymdeithas Bob Owen. Adalwyd ar 4 Mai 2012.
Nodyn: Daw trwch yr erthygl uchod o erthygl gan Gerald Morgan yng nghylchgrawn Y Casglwr, ; mae trwydded Creative Commons Attribution 3.0 License ar holl erthyglau'r cylchgrawn.

Dolenni allanol golygu

  • beibl.net Ferswin ar-lein o'r Beibl Cymraeg cyfoes
Chwiliwch am Y Beibl
yn Wiciadur.