Bar Mitzvah
Bar Mitzvah yw'r gwasanaeth synagog cyntaf mae bachgen Iddewig yn ei fynychu fel "oedolyn", yn 13 mlwydd oed. Gyda merched, mae'r digwyddiad yn cael ei alw'n Bat Mitzvah, ac mae'n digwydd pan mae'r ferch yn 12 oed (yn dibynnu ar y synagog). Ar ôl y gwasanaeth, trefnir parti i ddathlu'r Bar Mitsvah (neu Bat Mitzvah), ac mae traddodiad o roi anrhegion.
Enghraifft o'r canlynol | gwyl Iddewig |
---|---|
Math | Defod newid byd |
Yn cynnwys | bar mitzvah, bat mitzvah |
Enw brodorol | בני מצווה |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |