Bara fflat tebyg i deisen gri yw Bara Tabŵn (Arabeg: خبز طابون‎) sy'n wreiddiol o'r Lefant. Caiff ei bobi mewn popty clai tabŵn neu tannur 'tandoor', yn tebyg i'r gwahanol fara tandoor a geir drwy Asia. Fe'i defnyddir fel sylfaen i fwydydd eraill, neu i fel amlen i ddal llawer o fwydydd oddi mewn.[1]

Bara tabwn
MathBara fflat, saig Edit this on Wikidata
GwladBaner Palesteina Palesteina
Enw brodorolلَفَّة Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Amrywiadau golygu

 
Tabun traddodiadol o Balesteina gyda chaead

Mae bara tabŵn yn rhan bwysig o fwyd Palestina,[2][3][4] draddodiadol. Caiff ei bobi ar wely o gerrig bach poeth mewn popty tabŵn.[5] Dyma sylfaen y pryd a elwir yn musakhan, a ystyrir yn aml yn ddysgl genedlaethol Palesteina. Cofnododd yr Almaenwr Gustaf Dalman, ei fod wedi'i wneud ym Mhalesteina ar ddechrau'r 20g, ymhlith mathau eraill o fara a geir yno.[6]

Ym Mhalestina, roedd bara fflat wedi'i blygu yn aml yn cael ei lenwi â chymysgedd sbigoglys a nionyn, neu gyda cheuled caws a chymysgedd winwns, neu gyda rhesins a chnau pinwydd - yn eitha tebyg i'r hyn rydym yn ei alw heddiw'n frechdan.[6] Roedd y 'bara tabŵn cyffredin' ychydig yn llai o ran maint na'r 'bara tannur cyffredin'.[7] Dros y canrifoedd, chwaraeodd y weithred o wneud bara mewn tabwnau cymunedol rôl gymdeithasol bwysig i fenywod ym mhentrefi Palesteina.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. Skloot, Joe (February 28, 2002). "Falafel: Ambassador of peace or cuisine from mideast?". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-08-19. Cyrchwyd 2018-12-06.
  2. Albala, K. (2011). Food Cultures of the World Encyclopedia. Food Cultures of the World Encyclopedia. Greenwood. tt. 28–29. ISBN 978-0-313-37626-9. Cyrchwyd 2019-10-03.
  3. Whittemore, William Meynell (1874). Sunshine, conducted by W.M. Whittemore [and others]. t. 6.
  4. Albala, K. (2016). At the Table: Food and Family around the World: Food and Family around the World. ABC-CLIO. t. 171. ISBN 978-1-61069-738-5. Cyrchwyd 2019-10-03.
  5. 5.0 5.1 "e-turathuna-Tabun - Bethlehem University". www.bethlehem.edu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-03. Cyrchwyd 2019-02-03.
  6. 6.0 6.1 Dalman, Gustaf (1964). Arbeit und Sitte in Palästina (yn Almaeneg). 4 (Bread, oil and wine). Hildesheim. tt. 114–115. OCLC 312676221. (reprinted from 1935 edition)
  7. Dalman, Gustaf (1964). Arbeit und Sitte in Palästina (yn Almaeneg). 4 (Bread, oil and wine). Hildesheim. OCLC 312676221. (reprinted from 1935 edition), Diagram 30