Bardd llawryfog
Bardd a benodir yn swyddogol gan lywodraeth neu sefydliad pwysig arall i gyfansoddi cerddi ar gyfer achlysuron pwysig yw bardd llawryfog. Ers y cynoesoedd mae coron o ddail llawryf wedi cael ei defnyddio mewn darluniau o arwyr a beirdd enwog.

Mae penodiad swyddogol Bardd Llawryfog y Deyrnas Unedig yn dyddio'n ôl i 1668.