Bardd Cenedlaethol Cymru
Bardd Cenedlaethol Cymru yw'r teitl a roddir i'r bardd a ddewisir i fod yn "llysgennad diwylliannol i Gymru" gan Llenyddiaeth Cymru (Yr Academi Gymreig gynt). Gwneir y dewis gan bwyllgor sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Pwyllgor Diwylliant Llywodraeth Cynulliad Cymru, y Gymdeithas Gerdd Dafod, Cyngor Celfyddydau, Canolfan Tŷ Newydd ac eraill. Cyngor Celfyddydau Cymru sy'n ariannu'r penodiad. Mae'n benodiad am flwyddyn fel rheol ond gyda'r opsiwn o estyniad am flwyddyn ychwanegol. Disgwylir i'r bardd "wasanaethu Cymru gyfan a gwneud hynny drwy gyfrwng y ddwy iaith." Mae'r bardd cenedlaethol yn rhydd i ddilyn ei drywydd ei hun ac nid oes disgwyl iddo/iddi weithredu fel "bardd llys" diweddar, fel yn achos y Bardd Llawryfog (Poet Laureate) yn Lloegr.
Enghraifft o: | swydd ![]() |
---|---|
Math | Bardd llawryfog ![]() |
Crëwr | Llenyddiaeth Cymru ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 30 Mai 2005 ![]() |
Deiliad presennol | Gwyneth Lewis, Gwyn Thomas, Gillian Clarke, Ifor ap Glyn, Hanan Issa ![]() |
Deiliaid a'u cyfnodau | |
Enw brodorol | Bardd Cenedlaethol Cymru ![]() |
Gwladwriaeth | Cymru ![]() |

Beirdd Cenedlaethol Cymru
golyguGweler hefyd
golyguDolen allanol
golygu- Gwybodaeth am Fardd Cenedlaethol Cymru ar wefan Llenyddiaeth Cymru
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ifor ap Glyn yw'r Bardd Cenedlaethol newydd , BBC Cymru Fyw, 1 Mawrth 2016.
- ↑ Hanan Issa yw Bardd Cenedlaethol newydd Cymru , Golwg360, 6 Gorffennaf 2022.