Agor y brif ddewislen

Dechreuodd Barddoniaeth Skaldic yn Norwy yn y Canol Oesoedd, a chafodd ei datblygu gan Skalds (beirdd skaldic) yng Ngwlad yr Iâ a Norwy rhwng y 9fed a 14goedd.[1] Barddoniaeth ar lafar oedd hi.

Roedd 2 fath o farddoniaeth ar y pryd; yr un arall oedd Barddoniaeth Eddaic. Roedd hi'n syml, heb fedr pendant, a fel arfer yn ddi-enw. Yn achos barddoniaeth skaldic, dyn ni fel arfer yn gwybod enwau'r bardd.

Roedd 100 o fesurau o farddoniaeth skaldic; dróttkvætt (mesur y llys) oedd yr un pwysicaf. Mae barddoniaeth skaldic yn cynnwys niferau pendant o syllafau mewn llinell, cyflythrennu, odlau mewnol, defnydd o kennings (ddelweddau haniaethol)[2], a gosodiad o syllafau acennog a diacen, yn ôl rheolau. Defnyddiwyd dróttkvætt i ganmol brenhinoedd ac eu buddigolaethau.[3]

CyfeiriadauGolygu