Barry Manilow
Canwr-gyfansoddwr, trefnydd a cherddor Americanaidd yw Barry Manilow (ganwyd Barry Alan Pincus; 17 Mehefin 1943). Mae ei yrfa yn ymestyn dros 50 mlynedd a mae'n fwyaf adnabyddus am lu o ganeuon poblogaidd fel "Mandy", "Can't Smile Without You", a "Copacabana".
Barry Manilow | |
---|---|
Ffugenw | Barry Manilow |
Ganwyd | Barry Alan Pincus 17 Mehefin 1943 Brooklyn |
Man preswyl | Brooklyn |
Label recordio | Arista Records, Bell Records, Concord Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, canwr, canwr-gyfansoddwr, cyfansoddwr, arweinydd, cyfansoddwr caneuon, pianydd, awdur geiriau, actor llwyfan, sgriptiwr |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd |
Math o lais | tenor |
Gwobr/au | Gwobr Emmy 'Primetime', seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Gwefan | http://www.manilow.com |
Bywyd personol
golyguCychwynodd Manilow berthynas gyda'r cynhyrchydd teledu Garry Kief yn 1978, a ddaeth yn reolwr arno yn ddiweddarach. Priododd y ddau yn 2014, pan ddaeth priodas gyfunryw yn gyfreithiol yng Nghaliffornia. Cadwodd y berthynas a'i rywioldeb yn gyfrinach, nes i'r briodas daro'r penawdau yn 2015. Daeth Manilow allan yn 2017 gan ddweud wrth gylchgrawn People ei fod wedi cadw ei rywioldeb yn gyfrinach oherwydd ei fod yn pryderu y gallai hynny siomi ei ddilynwyr benywaidd, ond roeddent wedi bod yn gefnogol ar ôl dysgu am y briodas.[1][2]
Albymau
golygu- Barry Manilow (1973)
- Barry Manilow II (1974)
- Tryin' to Get the Feeling (1975)
- This One's for You (1976)
- Even Now (1978)
- One Voice (1979)
- Barry (1980)
- If I Should Love Again (1981)
- Here Comes the Night (1982)
- 2:00 AM Paradise Cafe (1984)
- Manilow (1985)
- Swing Street (1987)
- Barry Manilow (1989)
- Because It's Christmas (1990)
- Showstoppers (1991)
- Singin' with the Big Bands (1994)
- Summer of '78 (1996)
- Manilow Sings Sinatra (1998)
- Here at the Mayflower (2001)
- A Christmas Gift of Love (2002)
- Scores (2004)
- The Greatest Songs of the Fifties (2006)
- The Greatest Songs of the Sixties (2006)
- The Greatest Songs of the Seventies (2007)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Nelson, Jeff (5 Ebrill 2017). "Barry Manilow Reveals Why He Didn't Come Out for Decades: I Thought I Would 'Disappoint' Fans If They Knew I Was Gay". People. Cyrchwyd 2017-04-05.
- ↑ "Barry Manilow says he's gay, and he kept sexuality secret for fans". Los Angeles Daily News. 5 Ebrill 2017. Cyrchwyd 2017-04-05.