Brooklyn
Un o bum bwrdeistref Dinas Efrog Newydd, wedi'i leoli i'r de-orllewin o Queens ar ymyl orllewinol Long Island ydy Brooklyn. Enwyd y fwrdeistref ar ôl y dref Iseldireg Breukelen). Yn dref annibynnol tan iddi gael ei uno gydag Efrog Newydd ym 1898, Brooklyn ydy bwrdeistref fwyaf poblog Dinas Efrog Newydd, gyda 2.5 miliwn o drigolion. Hyhi yw'r ail fwrdeisdref fwyaf o ran arwynebedd hefyd. Ers 1896, bu gan Brooklyn yr un ffiniau a Swydd Kings, sydd yn bellach yn sir fwyaf poblog Talaith Efrog Newydd a'r ail sir gyda'r dwysedd poblogaeth uchaf yn yr Unol Daleithiau ar ôl Swydd Efrog Newydd (Manhattan).
![]() | |
Math |
bwrdeistref Dinas Efrog Newydd ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl |
Breukelen ![]() |
| |
Poblogaeth |
2,592,149 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth |
Eric Adams ![]() |
Cylchfa amser |
Cylchfa Amser y Dwyrain ![]() |
Gefeilldref/i |
Gdynia, Bnei Brak, Lambeth, Anzio, Beşiktaş, Leopoldstadt, Konak, Ardal Chaoyang, Yiwu, Huế ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Dinas Efrog Newydd ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
251 ±1 km² ![]() |
Gerllaw |
Upper New York Bay, Lower New York Bay, Jamaica Bay, East River, Newtown Creek ![]() |
Yn ffinio gyda |
Queens, Ynys Staten, Manhattan, Bayonne, Dinas Jersey ![]() |
Cyfesurynnau |
40.6928°N 73.9903°W ![]() |
Cod post |
112 ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Eric Adams ![]() |
![]() | |
Er ei fod yn rhan o Ddinas Efrog Newydd, mae gan Brooklyn ei ddiwylliant unigryw ei hun, yn ogystal â bywyd celfyddydol annibynnol a threftadaeth pensaernïol unigryw. Mae nifer o gymdogaethau Brooklyn yn lecynnau ethnig lle mae'r mwyafrif o'r trigolion yn perthyn i grŵpiau ethnig a diwylliannau penodol.