Bartolomé Hidalgo

Bardd o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Bartolomé Hidalgo (24 Awst 178828 Tachwedd 1822). Roedd yn un o'r llenorion cyntaf o America Ladin i ysgrifennu am fywyd y gaucho.

Bartolomé Hidalgo
Ganwyd24 Awst 1788 Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
Bu farw28 Tachwedd 1822 Edit this on Wikidata
Morón Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, bardd Edit this on Wikidata
Arddullgaucho literature, barddoniaeth Edit this on Wikidata

Ganwyd ym Montevideo yn Rhaglywiaeth Río de la Plata, un o raglywiaethau Ymerodraeth Sbaen yn yr Amerig. Mynychodd ysgol Ffransisgaidd. Cafodd waith yn gyfrifydd yn y trysorlys brenhinol yn 1806, ac ymunodd â'r fyddin leol. Brwydrodd yn erbyn yr Ymerodraeth Brydeinig yn ystod goresgyniadau'r Río de la Plata (1806–07) ac yn erbyn Ymerodraeth Portiwgal yn ystod goresgyniad y Banda Oriental (1811–12). Roedd yn gyfaill clos i José Gervasio Artigas, arwr cenedlaethol Wrwgwái, a daliodd sawl swydd yn llywodraeth y Liga Federal.[1]

Aeth Hidalgo i'r Ariannin yn 1818, ac yno bu farw yn 34 oed ym mhentref Morón. Cyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth filwriaethus, Cielitos y Diálogos patrióticos (1820–22), sy'n adlewyrchu ei gefnogaeth frwd dros y mudiad annibyniaeth. Cyfansoddodd gan amlaf yn nhraddodiad y beirdd newydd-glasurol, ond bu hefyd yn arloesi barddoniaeth boblogaidd drwy gyfrwng tafodiaith y rioplatense ac iaith y gauchos, er enghraifft yn Relación de las fiestas mayas de 1822.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) "Hidalgo, Bartolomé (1788–1822)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 23 Ebrill 2019.

Darllen pellach golygu

  • Flora Benavides de Abanto, El lenguaje dialectal en un texto de la poesía gauchesca: Nuevo diálogo de Bartolomé Hidalgo; análisis fonético, morfológico y sintáctico (Lima: Universidad de Lima, Facultad de Ciencias Humanas, 1993).
  • Nicolás Fusco Sansone (gol.), Vida y obras de Bartolomé Hidalgo, primer poeta uruguayo (1952).