Bashō

(Ailgyfeiriad o Basho)

Bardd o Japan oedd Matsuo Bashō (1644 - 28 Tachwedd 1694), a oedd y mwyaf o'r beirdd cerddi haiku yn llenyddiaeth Siapaneg. Fe'i ganwyd yn 1644 yn ninas Uedo, rhanbarth Iga. Roedd yn fardd cynhyrchiol iawn a chasglwyd ei gerddi mewn sawl blodeugerdd Siapaneg gyfoes.

Bashō
Ffugenw甚七郎, 甚四郎, 俳聖 Edit this on Wikidata
Ganwyd金作 Edit this on Wikidata
1644 Edit this on Wikidata
Lle geni Basho Okina Edit this on Wikidata
Bu farw28 Tachwedd 1694 Edit this on Wikidata
Midōsuji Edit this on Wikidata
Man preswylGuan Canna, 'Cartrefi Hudol', Lle geni Basho Okina Edit this on Wikidata
DinasyddiaethJapan Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, llenor Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Sengin Edit this on Wikidata
Adnabyddus amOku no Hosomichi, Gêm y Gragen, Teithiwr Nawdd, Frog Poem Edit this on Wikidata
Arddullhaikai Edit this on Wikidata
Cartre'r teuluTref Tsui Edit this on Wikidata
MudiadShōfū haikai Edit this on Wikidata

Ei waith mwyaf cyfarwydd y tu allan i Siapan yw'r gyfres o lyfrau taith byr, sy'n gyfuniad o ryddiaith a barddoniaeth, a ysgrifennodd yn ystod rhan olaf ei oes. Maent yn cynnwys Oku no Hosumichi ('Y Llwybr Cul i'r Gogledd Eithaf'), Nozarashi Kikō ('Cofnodion Sgerbwd Agored i'r Tywydd'), Kashima Kikō ('Ymweliad â Kashima'), Oi no Kabumi ('Cofnodion Cod Taith Treuliedig') a Sarashina Kikō ('Ymweliad â Sarashima').

Llyfryddiaeth

golygu
  • Noboyuki Yuasa (cyf.), Bashō: The Narrow Road to the Deep North and other Travel Sketches (Llundain, 1968)

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato