Blodeugerdd
antholeg o gerddi
Detholiad o gerddi wedi'u casglu ynghyd yw blodeugerdd. Fel rheol mae rhyw thema neu berthynas rhwng y cerddi hynny, er enghraifft cerddi serch, cerddi ar yr un mesurau, neu gerddi gan feirdd sy'n perthyn i'r un genedl neu gyfnod, ac ati.
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | literary form ![]() |
Math | Q108329788, cyhoeddiad, collection of literary works ![]() |
Yn cynnwys | cerdd ![]() |
Rhai o'r blodeugerddi cynharaf oedd anthologia' y Groegiaid, gan gynnwys y casgliad o epigrammau a elwir Y Flodeugerdd Roegaidd. Ceid blodeugerddi mewn sawl iaith a diwylliant arall yn ogystal, gan gynnwys Tsieina, Siapan, Persia a'r byd Arabaidd.
Un o'r blodeugerddi Cymraeg cynharaf yw Gorchestion Beirdd Cymru, a olygwyd gan Rhys Jones o'r Blaenau a'i chyhoeddi yn 1773.