Beatrix, brenhines yr Iseldiroedd
Brenhines yr Iseldiroedd o 1980 hyd ei hymddiswyddiad ar 30 Ebrill 2013 oedd Beatrix (ganwyd 31 Ionawr 1938). Mae ganddi'r teitl "Tywysoges" bellach. Esgynnodd hi i'r orsedd yn 1980 ar ymddiswyddiad ei mam, Brenhines Juliana. Hi yw trydedd frenhines yr Iseldiroedd yn olynol ers 1890, ar ôl ei nain Wilhelmina a'i mam Juliana. Olynwyd Beatrix gan ei mab, Willem-Alexander, y brenin cyntaf ers i Wiliam III farw yn 1890.
Beatrix, brenhines yr Iseldiroedd | |
---|---|
Ganwyd | 31 Ionawr 1938 Palas Soestdijk |
Dinasyddiaeth | Brenhiniaeth yr Iseldiroedd |
Addysg | Doethur yn y Gwyddorau Cyfreithiol |
Alma mater | |
Galwedigaeth | teyrn, pendefig |
Swydd | Teyrn yr Iseldiroedd |
Tad | Bernhard, Tywysog Cydweddog yr Iseldiroedd |
Mam | Juliana o'r Iseldiroedd |
Priod | Prince Claus of the Netherlands |
Plant | Willem-Alexander, brenin yr Iseldiroedd, Prince Friso of Orange-Nassau, Prince Constantijn of the Netherlands |
Perthnasau | Victoria, Tywysoges Goronog Sweden |
Llinach | House of Orange-Nassau |
Gwobr/au | Gwobr Siarlymaen, Urdd yr Eryr Gwyn, Marchog Urdd y Cnu Aur, Dutchman of the Year, Urdd y Tair Seren, Dosbarth 1af, Urdd seren Romania, Urdd Croes y De, Cadwen Frenhinol Victoria, Uwch Groes Urdd Haul Periw, Collar of the Supreme Order of the Chrysanthemum, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Uwch Groes Dosbarth Arbennig Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Uwch-seren Datganiad o Wasanaeth i Weriniaeth Awstria, Urdd yr Eliffant, Uwch Goler Urdd Tywysog Harri, Doethor Anrhydeddus Brifysgol Leiden, Urdd Seren Mawr Iwgoslafia, Urdd y Gwaredwr, Grand Cross of the Order of the White Double Cross, Order of Vytautas the Great, Urdd y Dannebrog, Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir gyda Choler, Order of Gabriela Silang |
llofnod | |
Bywyd cynnar
golyguMerch hynaf i Frenhines Julian a Thywysog Bernhard, ganwyd Beatix yn Baarn yn 1938. Mae ganddi dair chwaer, Irene (ganwyd 1939), Margriet (1943) a Christina (1947). Goresgynnwyd yr Iseldiroedd gan luoedd yr Almaen ddwy flynedd a hanner ar ôl ei genedigaeth ar 10 Mai 1940. Ynghyd â'i mam Juliana a'i chwaer Irene, diangodd hi dros Loegr i Ganada, lle treuliodd hi'r Ail Ryfel Byd. Treuliodd ei thad, Tywysog Bernard, ran fwya'r rhyfel yn Llundain gyda Brenhines Wilhelmina. Dychwelodd y teulu i'r Iseldiroedd yn yr haf o 1945, gyda merch newydd Margriet oedd wedi cael ei geni yng Nghanada. Daethant i fyw ym mhalas Soestdijk ger Baarn.