Llundain

prifddinas Lloegr a'r Deyrnas Unedig

Prifddinas y Deyrnas Unedig a phrifddinas Lloegr yw Llundain (Saesneg: London). Saif y ddinas ar lan afon Tafwys yn ne-ddwyrain Lloegr, gyda phoblogaeth o tua 8,799,728 (2021)[1]. Ceir 130 o filltiroedd rhwng Llundain a Chaerdydd.

Llundain
Mathmetropolis, canolfan ariannol, dinas, dinas global, mega-ddinas, y ddinas fwyaf, national capital Edit this on Wikidata
En-uk-London.ogg, LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Londra.wav, LL-Q1617 (urd)-نعم البدل-لندن.wav Edit this on Wikidata
Poblogaeth8,799,728 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • c. 47 (tua) Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethSadiq Khan Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd1,572 ±1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr15 metr, 11 metr, 36 troedfedd Edit this on Wikidata
GerllawAfon Tafwys, Camlas Grand Union Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaEssex, Caint, Sussex, Surrey, Swydd Buckingham, Berkshire, Swydd Hertford Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.5072°N 0.1275°W Edit this on Wikidata
Cod postE, EC, N, NW, SE, SW, W, WC, BR, CM, CR, DA, EN, HA, IG, KT, RM, SM, TN, TW, UB, WD Edit this on Wikidata
GB-LND Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Llundain Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethSadiq Khan Edit this on Wikidata
Map

Mae'r ddinas wedi bodoli ymhell cyn dyfodiad y Saeson i Loegr: ceir olion Celtaidd a Rhufeinig, ac mae'n debyg bod yr enwau modern arni, drwy'r enw Lladin 'Londinium, o darddiad Celtaidd. Yn ôl Sieffre o Fynwy yn ei Historia Regum Britanniae (12fed ganrif) a'r chwedl Gymraeg Cyfranc Lludd a Llefelys, Lludd fab Beli a roddodd ei enw i'r ddinas drwy'r enw "Caer Ludd".[2]

Mae pencadlys a phrif faes rygbi Lloegr yn Twickenham, ardal faestrefol yn ne-orllewin y ddinas. Mae'r ddinas hefyd yn gartref i sawl tîm pêl-droed. Lleolir stadiwm genedlaethol newydd Lloegr yn Wembley ers 2007; fe'i codwyd ar gost o £800,000,000.[3]

Hanes Llundain

golygu

Mae tarddiad yr enw Llundain yn dal i fod yn ddirgelwch. Sieffre o Fynwy oedd yn gyfrifol am darddiad yr enw cynnar gan iddo ysgrifennu hanes y brenin Celtaidd Lludd fab Beli, a gymerodd drosodd y ddinas a'i galw'n Kaerlud. Newidiodd yr enw yma dros amser i Kaerludien ac yna London. Mae yna ddamcaniaethau eraill dros darddiad y gair, rhai yn dod o'r Frythoneg ac un honiad heb fawr o goel arno yn deillio nôl i'r Eingl-sacsonaidd. Mae tystiolaeth fod aneddiadau Brythonig gwasgaredig yn yr ardal yn deillio nôl cyn y Rhufeiniaid, ond sefydlwyd yr anheddiad sylweddol cyntaf gan y Rhufeiniaid a'i alw'n Londinium, yn dilyn concwest y Rhufeiniaid yng ngwledydd Prydain. Goroesodd y Londinium yma am 17 mlynedd yn unig oherwydd yn y flwyddyn 61 O. C. ymosododd Llwyth yr Iceniaid ar Lundain o dan arweiniad Brenhines Buddug (Boundica). Roedd hon yn fuddugoliaeth ysgubol a llosgwyd Llundain (a oedd eisoes yn datblygu'n brifddinas de facto y dalaith) i'r llawr. Mae'r lludw yn dal i gael ei gloddio oddi yno ddwy fil o flynyddoedd yn ddiweddarach.[4]. Ailadeiladwyd Llundain ar ôl yr ymosodiad, a daeth yn brif ddinas ar ôl Colchester. Roedd gan y Llundain Rhufeinig boblogaeth o tua 60,000 erbyn yr amser yma.

Yn 450 O.C. roedd Llundain yn parhau i fod yn nwylo'r Brythoniaid.[5]

Erbyn y 600au, cododd yr Eingl-sacsonaidd adeiladau newydd a galw'r dref yn Lundenwic a oedd tua 1000 troedfedd i fyny’r afon o’r hen ddinas Rufeinig; bellach a elwir yn Covent Garden. Mae'n debygol y byddai harbwr wedi bod ar aber afon Fleet bryd hynny ar gyfer pysgota a masnachu. Tyfodd y masnachu hyd oni chafodd yr ardal ei goresgyn gan Y Llychlynwyr. Bu'n rhaid i’r ddinas ailsefydlu ei hun yn yr hen safle, sef safle Llundain Rufeinig lle'r oedd yna furiau i'w hamddiffyn. Parhaodd yr ymosodiadau gan y Llychlynwyr yn ne-ddwyrain Lloegr tan 886 pan ail-gipiodd Alfred Fawr y ddinas a chreu heddwch efo’r arweinydd Daneg, Guthrum. Daeth y ddinas Sacsonaidd, wreiddiol sef ‘’Lundenwic’’ yn ‘’Ealdwic’’ (Hen Ddinas), enw a oroesodd tan heddiw fel ‘’Aldwych’’, sydd yn Ninas Westminster.

 
Map o Lundain yn 1300

Mewn dial, ymosododd byddin y Saeson gan ddymchwel "Pont Llundain". Roedd y Saeson yn ôl, ac yn rheoli mewn safle pwerus. Daeth Canute Fawr i rym yn 1016, arweiniodd y ddinas tan ei farwolaeth yn 1035. Pan fu farw, dychwelodd arweiniad y dalaith i'r Sacsoniaid. Erbyn hyn, roedd Llundain yn un o ddinasoedd mwyaf (a mwyaf ffyniannus) Lloegr er bod pencadlys y llywodraeth yn Winchester. Yn dilyn buddugoliaeth Brwydr Hastings yn 1066, coronwyd Gwilym y Gorchfygwr ac yna Dug Normandi fel Brenin Lloegr mewn abaty newydd yn Westminster ar ddydd Nadolig 1066. Rhoddodd Gwilym (William) freintiau i’r dinasyddion, ac ar yr un pryd adeiladwyd Tŵr Llundain i gadw trefn ar ei dinasyddion.

Dechreuwyd adeiladu Palas San Steffan yn 1097 yn agos i Abaty Westminster. Mae'r parth hwnnw o Westminster wedi bod yn ardal lywodraethol o’r cyfnod hwnnw hyd heddiw. Tyfodd Llundain mewn cyfoeth a phoblogaeth yn ystod yr Oesoedd Canol. Yn 1100 roedd poblogaeth Llundain tua 18,000; erbyn 1300 tyfodd i bron 100,000. Gwaharddodd Brenin Edward Iddewon o'r ddinas a lleihaodd y boblogaeth.

 
Tân Mawr Llundain

Daeth trychineb y Pla du yn y 14g. Collodd Llundain traean o’i phoblogaeth. Roedd yn weddol dawel yn ystod y canol oesoedd, oni bai am rhai rhyfeloedd cartref megis Rhyfeloedd y Rhosynnau. Ar ôl trechu'r Armada Sbaeneg yn 1588, cafwyd sefydlogrwydd llywodraethol a gwelwyd twf yn y ddinas. Yn 1603 daeth Iago, brenin Lloegr (I) a'r Alban (VI) yn frenin Lloegr. Roedd ei ddeddfau gwrth-Gatholig yn amhoblogaidd iawn, ac felly cafwyd ymgais i'w lofruddio; adnabyddir hyn fel Cynllwyn y Powdr Gwn ar 5 Tachwedd 1605.

Achosodd y Pla Mawr nifer o broblemau yn Llundain yn gynnar yn yr 17g. Lladdwyd rhwng 70,000 a 100,000 yn y pla rhwng 1665-66. Daeth y pla i ben fwy na thebyg oherwydd i’r dân mawr Llundain, ei glirio yn 1666. Cynnwyd y tân yn y ddinas wreiddiol ac ymledodd drwy’r adeiladau pren a'r toeau gwellt. Cymerodd yr ailadeiladu 10 mlynedd i'w hailadeiladu.

Yn dilyn twf mawr Llundain yn y 18g, fe gafodd yr anrhydedd o'i galw'r ddinas fwyaf yn y byd o 1831 i 1925. Arweiniodd y cynnydd mewn cludiant at adeiladu’r system danddaearol cyflyma'r byd.

Lladdwyd dros 30,000 o bobl yn ystod Y Blitz gan ddinistrio nifer fawr o adeiladau ar draws Llundain.

Daearyddiaeth

golygu

Ardaloedd

golygu

Awdurdodau lleol o fewn Llundain Fwyaf yw Bwrdeistrefi Llundain (Saesneg: London Boroughs). Ceir 32 o Fwrdeistrefi Llundain ynghyd â Dinas Llundain, nad yw'n cael ei hystyried yn fwrdeistref.

  1. Dinas Llundain
  2. Dinas Westminster
  3. Kensington a Chelsea*
  4. Hammersmith a Fulham
  5. Wandsworth
  6. Lambeth
  7. Southwark
  8. Tower Hamlets
  9. Hackney
  10. Islington
  11. Camden
  12. Brent
  13. Ealing
  14. Hounslow
  15. Richmond upon Thames
  16. Kingston upon Thames*
  17. Merton
 
  1. Sutton
  2. Croydon
  3. Bromley
  4. Lewisham
  5. Greenwich*
  6. Bexley
  7. Havering
  8. Barking a Dagenham
  9. Redbridge
  10. Newham
  11. Waltham Forest
  12. Haringey
  13. Enfield
  14. Barnet
  15. Harrow
  16. Hillingdon
† dim yn fwrdeistref am ei fod wed'i lywodraethu gan Gorfforaeth Dinas Llundain
* Bwrdeistref Frenhinol

Poblogaeth

golygu

Hanes poblogaeth Llundain (data o Wicidata)

Hinsawdd

golygu
 
Hinsawdd Llundain

Cysylltiadau Cymreig

golygu

Yn anad un ddinas arall yn Lloegr mae gan Lundain gysylltiadau hir â Chymru. Mae Cymry Llundain wedi cael eu disgrifio fel "yr hynaf a'r fwyaf o'r holl gymunedau o alltudion o Gymru". O'r Oesoedd Canol Diweddar ymlaen, ceir cofnodion am Gymry yn ymweld â Llundain – ac weithiau'n aros yno – fel milwyr hur, masnachwyr, ac ati. Erbyn canol y 18g roedd cymuned bur sylweddol o Gymry alltud yn byw yno, naill ai dros dro neu'n barhaol. Am fod Cymru yn amddifad o brifddinas a chanolfannau trefol mawr, daeth Llundain yn ganolbwynt i lenorion a hynafiaethwyr hefyd a sefydlwyd sawl cymdeithas ddiwylliannol wladgarol yno, gan gynnwys y Gwyneddigion a'r Cymmrodorion. Sefydlwyd Ysgol Gymraeg Llundain a fu'n gartref dros dro i gasgliad pwysig o lawysgrifau Cymraeg.

Daeth newid pwysig yn y 1950au a'r 1960au gyda chyhoeddi Caerdydd yn brifddinas Cymru a'r cynnydd mewn gwaith gweinyddol a ddaeth yn sgil hynny, a lleihaodd nifer y Cymry a aethai i Lundain er mwyn eu gyrfa broffesiynol. Amcangyfrifir gan rai bod tua 100,000 o bobl a aned yng Nghymru (heb sôn am bobl o dras Gymreig) yn byw yn Llundain heddiw, ond erbyn hyn mae rhwymau cymdeithas wedi llacio a bychan iawn mewn cymhariaeth â'r hen ddyddiau mae cymdeithas Gymraeg/Gymreig y ddinas erbyn heddiw.

Oriel luniau

golygu
Golygfa panorama o Lundain fodern, gwelir o Eglwys Gadeiriol Sant Paul
Golygfa o Greenwich Park, efo Queen's House a hefyd y National Maritime Museum yn y blaendir

Eisteddfod Genedlaethol

golygu

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Llundain ym 1887 a 1909:

Trafnidiaeth

golygu

Mae gan Lundain y system trenau dan-ddaear hynaf yn y byd, y London Underground a adnabyddir fel yr "Underground" neu'r "Tube".

Adeiladau a chofadeiladau

golygu

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. https://www.nomisweb.co.uk/sources/census_2021/report?compare=E12000007.
  2. Gweler: Ifor Williams (gol.), Cyfranc Lludd a Llefelys (Bangor 1910; arg. newydd 1922)
  3. Gwefan Saesneg 'Answers.com'
  4. Hanes Cymru gan John Davies, Gwasg Penguin, 1990, tudalen 29
  5. Hanes Cymru gan John Davies, Gwasg Penguin, 1990, tudalen 56

Dolenni allanol

golygu