Beca Lyne-Pirkis
Cogydd ac awdur yw Rebecca Frances Lyne-Pirkis (ganwyd 28 Medi 1981).
Beca Lyne-Pirkis | |
---|---|
Ganwyd | 28 Medi 1981 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | pen-cogydd |
Mae hi'n fwyaf adnabyddus am ei chyfresi teledu ar S4C, sef Parti Bwyd Beca a Becws, ond daeth i sylw'r byd ar ôl iddi ymddangos ar The Great British Bake Off.[1][2][3]
Ers dod i amlygrwydd fel cystadleuydd ar y gyfres honno yn 2013, mae Lyne-Pirkis wedi dod yn enw ac wyneb cyfarwydd fel cogydd, awdur bwyd a chyflwynydd teledu. Yn 2017 cyhoeddodd ei llyfr ryseitiau poblogaidd 'Bwyd Beca / My Food' sydd yn llawn dop o ryseitiau sy'n ffefrynnau teuluol a fydd yn siwr o ysbrydoli cogyddion ar draws Cymru.
Ceir amrywiaeth eang o ryseitiau yn y gyfrol ddwyieithog hon – o bobi bara i felysion bore coffi, o gig araf y barbeciw i seigiau llysieuol annisgwyl, o brydau Americanaidd torfol mawr i swper sydyn i’r teulu. Mae rhai o'r clasuron i'w cael yma hefyd, fel Pice ar y Maen, ond gyda chyffyrddiad unigryw Beca – troi'r pice yn rhai ham a chaws, a hefyd yn rhai gyda siocled tywyll ac oren.
Yn y cyflwyniad byr, eglura Beca fod rhan o’i theulu yn dod o America ac mae rhai o'r prydau wedi eu hysbrydoli gan y wlad honno, er enghraifft, y ffa pob a phorc.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "www.gwales.com - 9781785622328, Bwyd Beca / My Food". www.gwales.com. Cyrchwyd 2020-01-10.
- ↑ "Bakers - Beca". The Great British Bake Off. 8 December 2016.
- ↑ Kate Rees (30 Gorffennaf 2014). "'I'm happy about being the only Welshie on the Great British Bake Off,' says Beca Lyne-Pirkis". Wales Online. (Saesneg)