Pice ar y maen

(Ailgyfeiriad o Teisen gri)

Danteithyn traddodiadol o Gymru yw Pice ar y Maen/Teisen Gri.[1]

Teisennau cri

Mae'n cael ei adnabod wrth sawl enw arall, yn cynnwys cacen gri (yn y Gogledd), picau ar y maen neu pice bach (yn y De), a weithiau teisen radell.

Traddodiad a chynnhywsion

golygu

Yn draddodiadol, arferir coginio teisennau cri ar ridell haearn bwrw wedi ei osod ar y tân neu ar y stof.

Prif gynhwysion y deisen yw blawd, menyn neu saim, wyau, siwgr, a chyrens a/neu rhesin. Maent yn cael eu mowldio ar ffurf gron, ychydig o fodfeddi o led a thua hanner modfedd dwfn.

Gellir eu gosod ar y bwrdd yn boeth neu'n oer, wedi'u taenu â swigr caster. Fel arfer mae pobl yn hoff o'u bwyta fel y maent neu gyda mymryn o fenyn, weithiau gyda phaned o de.

Fel pob bwyd traddodiadol, ceir sawl amrywiad, yn cynnwys y Llech Cymreig a wneir gyda blawd plaen a'r deisen yn slaben ("llech") hirsgwar a goginir ar ridell.

 
Gwneud picau ar y maen

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Buckland, Helen; Keepin, Jacqui (2017-10-02). CBAC TGAU Bwyd a Maeth (WJEC GCSE Food and Nutrition Welsh-language edition) (yn Saesneg). Hodder Education. ISBN 978-1-5104-1843-1.