Mae bedydd Wicaidd (Saesneg: Wiccaning) yn seremoni neu ddefod Wicaidd sydd yn gydweddol i fedydd Cristnogol ar gyfer babi lle'i gyflwynir i'r Duw a'r Dduwies am amddiffyniad.

Mae bedyddiadau Wicaidd yn perthyn i Wica'n benodol, ond dethlir seremonïau tebyg o fewn crefyddau Neo-baganaidd eraill. Saenio (o'r hen Saesneg Sain, sydd yn golygu bendithio, cadw draw o ddylanwad drwg) yw'r enw a roddir i'r seremonïau tebyg hyn.[1]

Y ddefod

golygu

Yn draddodiadol, mae'r Archoffeiriad a'r Archoffeiriades yn cyflwyno'r babi i'r Duw a'r Dduwies. Mewn cytundeb â'r pwysigrwydd a roddir ar ewyllys rhydd o fewn traddodiadau Wicaidd, nid oed dim disgwyl i'r babi ddilyn neu ddewis llwybr Paganaidd am ei hun pen ei fod yn heneiddio.

Yn ystod y ddefod, mae'r rhieni'n cyflwyno'r babi i'r pum elfen a gofyn am eu bendith neu am ddiogelwch, ac fel arfer defnyddir llysenw hudol yn ogystal â'i enw go iawn.[2] Pan yw'r babi'n tyfu, mae'n gallu dewis enw Wicaidd am ei hun.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gweler y ddefod Dderwyddol am enghraifft. Ár nDraíocht Féin: A Druid Fellowship (ADF) (2010). Naming and Saining the Baby - ADF Neopagan Druidism (ar-lein). Cyrchwyd 8 Ebrill 2010
  2. "Wuzzle - Wiccaning". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-04-16. Cyrchwyd 2010-04-08.

Dolenni allanol

golygu