Offeiriad uchel, neu brif offeiriad yw archoffeiriad (Saesneg: High Priest). Gall y term gyfeirio at y prif offeiriad mewn teml neu gysegrfa (shrine) arall neu at bennaeth enwad crefyddol. Yr enw cyfatebol am fenyw yw archoffeiriades.

Crist o flaen Caiaphas. Paentiad gan Bachiacca, 16eg ganrif

Mae union ystyr y term yn amrywio o grefydd i grefydd.

Y traddodiad Abrahamig golygu

Yn Iddewiaeth, gelwir prif offeiriad yn yr eglwys Iddewig yn archoffeiriad. Yn y traddodiad Iddewig, aberthid yn y Tabernacl yn wreiddiol, ac wedyn yn y Deml yn Jerwsalem a adnabyddir yn gyffredin fel Teml Solomon. Rhennid y deml yn sawl ystafell, ac elwid yr adran fewnol y "lle sancteiddiaf". Yr archoffeiriad oedd yr unig berson â'r hawl i fynd i mewn i'r "lle sancteiddiaf", a dim ond ar un diwrnod yn y flwyddyn, sef Yom Kippur, pan arferid offrymu anifail yno. Yn wreiddiol, prif offeiriad y Lefitiaid, yr offeiriadaeth a oedd yn ddisgynyddion o lwyth Lefi, oedd yr archoffeiriad Iddewig. Erbyn cyfnod y Rhufeiniaid, yr archoffeiriad hwnnw oedd pennaeth gwladwriaeth Judaea. Roedd yn cael ei apwyntio gan y Rhufeiniaid. Yn ôl y Testament Newydd, Caiaphas oedd yr archoffeiriad y dygwyd Iesu o Nasareth o'i flaen i sefyll ei brawf.

Mewn Cristnogaeth, mae'n enw a ddefnyddir am Grist weithiau, yn bennaf yn y Llythyr at yr Hebreaid. Ond mae'r llythyr yn gwahaniaethu rhwng rhôl archoffeiriadaeth Iesu a'r archoffeiriaid cynt; yn ôl y llythyr, roedd rhaid i'r hen aberthau cael eu hailgyflawni bob tro achos nad oedden nhw'n effeithiol i ddileu pechod, ond offrymodd Iesu ei hun yn aberth unwaith ac am byth ac wedyn esgynnodd i eistedd ar ochr dde Duw.

Crefyddau'r Henfyd a Phaganiaeth golygu

 
Dau archoffeiriad o'r Hen Aifft.

Mae'n derm a gymhwysir yn gyffredin i ddisgrifio swydd prif Offeiriad yng nghrefyddau'r Henfyd. Fel rheol byddai'r Archoffeiriad(es) yn gwasanaethu duw neu dduwies neilltuol a gan amlaf yn bennaeth teml wedi'i chysegru i'r bod dwyfol hwnnw.

Ceir tystiolaeth am Archoffeiriaid ac Archoffeiriaid mewn sawl diwylliant hynafol, yn cynnwys yr Hen Aifft a Mesopotamia a'r Rhufain hynafol. Fel rheol byddai dyn yn gwasanaethu duw fel Archoffeiriad a dynes yn gwasanaethu duwies, ond ceir eithriadau hefyd.

Neo-baganiaeth golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am grefydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.