Llosgfynydd 2,277 metr yw Beerenberg, sy'n ffurfio rhan gogledd-orllewinol ynys Jan Mayen yn Norwy. Ceir ceudwll oddeutu 1 km o led sydd wedi'i lenwi'n bennaf gan ar frig y llosgfynydd, ac mae sawl brig ar ei ymyl, gan gynnwys copa uchaf y llosgfynydd - Haakon VII Toppen, ar ochr gorllewinol y mynydd. 

Beerenberg
Mathllosgfynydd, pwynt uchaf Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirJan Mayen Edit this on Wikidata
GwladBaner Norwy Norwy
Uwch y môr2,277 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau71.079667°N 8.155881°W Edit this on Wikidata
Amlygrwydd2,277 metr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddMid-Atlantic Ridge Edit this on Wikidata
Map

Mae llethrau uchaf y llosgfynydd wedi'u gorchuddio'n bennaf gan iâ, ac mae sawl rhewlif mawr (gan gynnwys pump sy'n cyrraedd y môr.[1]  Rhewlif Weyprecht yw'r hiraf ohonynt, sy'n llifo o geudwll y copa hyd at yr ymyl gogledd-ddwyreiniol, ac mae'n ehangu dros tua 6 km tuag at y môr. 

Gwnaeth y llosgfynydd ffrwydro ddiwethaf yn 1985 a 1970[2]  Bu iddo hefyd erydu yn 1732, 1818, a 1851.

Ystyr ei enw yn yr Iseldireg yw "Mynydd yr Arth", sy'n hanu o'r eirth gwyn a welodd pysgotwyr morfilod o'r Iseldiroedd ar ddechrau'r 17g.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Jan Mayen Topographic Map
  2. Sylvester, Arthur Gibbs. "Seismic Search for Magma Chambers Beneath Jan Mayen and Field Inspection of the 1970 Beerenberg Eruption Area". University of California. Cyrchwyd 31 Mai 2016.