Jan Mayen
Ynys fwlcanig yng Nghefnfor yr Arctig yw Jan Mayen. Mae'n rhan sofranaidd o Norwy. Gyda Svalbard, mae'n rhan o Svalbard a Jan Mayen. Does neb yn byw yno yn barhaol, er bod anheddiad bach Olonkinbyen yn cael ei weithredu gan ychydig o aelodau o Luoedd Arfog a Sefydliad Meteorolegol Norwy.
Math | ynys, sir, tiriogaeth dramor gyfannol, is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf |
---|---|
Enwyd ar ôl | Jan Jacobszoon May van Schellinkhout |
Prifddinas | Olonkinbyen |
Poblogaeth | 18 |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Norwyeg |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Norwy |
Arwynebedd | 377 km² |
Uwch y môr | 2,277 metr |
Gerllaw | Cefnfor yr Arctig, Greenland Sea, Môr Norwy |
Cyfesurynnau | 70.983°N 8.5336°W |
Cod post | 8099 |
NO-22 | |
Hyd | 54 cilometr |
Hyd yr ynys yw 55 km (34 milltir) gyda arwynebedd o 373 km² (144 milltir sgwar); fe'i gorchuddir yn rhannol gan rewlifoedd (ardal o 114.2 km (71.0 milltir) o gwmpas mynydd Beerenberg). Fe'i rhennir yn ddwy ran, sef Nord-Jan yn y gogledd-ddwyrain (y rhan fwyaf) a'r Sør-Jan llai, a gysylltir gan isthmus o dir gyda lled o 2.5 km (1.6 milltir). Mae'n gorwedd 600 km (370 milltir) i'r gogledd-ddwyrain o Wlad yr Iâ, 500 km (310 milltir) i'r dwyrain o ganolbarth yr Ynys Las a 1,000 km (620 milltir) i'r gorllewin o Nordkapp, Norwy. Mae'n ynys fynyddig; ei phwynt uchaf yw llosgfynydd Beerenberg yn y gogledd. Lleolir dau lyn fwyaf yr ynys ger yr isthmus, sef Sørlaguna a Nordlaguna. Ceir llyn arall a enwir yn Ullerenglaguna hefyd.