Beersheba
Dinas fwyaf diffeithdir y Negev, de Israel, yw Beersheba, a chyfeirir ati'n fynych fel prifddinas y Negev yn y cyswllt hwn. Hyhi yw seithfed dinas fwyaf Israel gyda phoblogaeth o 206, 000 o bobl.
Math | dinas, dinas fawr, cyrchfan i dwristiaid |
---|---|
Poblogaeth | 209,000 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Ruvik Danilovich |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | Oni, Cebu City, Montréal, Winnipeg, Parramatta, Addis Ababa, Seattle, Adana, Cluj-Napoca, La Plata, Rosenheim, Wuppertal, Lyon, Niš, Huai'an, Bouaké |
Daearyddiaeth | |
Sir | Beersheba Subdistrict |
Gwlad | Israel |
Arwynebedd | 117.5 km² |
Uwch y môr | 260 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 31.2522°N 34.7867°E |
Cod post | 84*** |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer |
Pennaeth y Llywodraeth | Ruvik Danilovich |
Daeth yn bwysig yn y 19g pan adeiladwyd gan yr Otomaniaid orsaf heddlu rhanbarthol yno. Cyn sefydlu gwladwriaeth Israel yn swyddogol, bwriadwyd i Feersheba bod yn rhan o wladwriaeth Balesteinaidd ar wahân. Ond wedi datgan bodolaeth swyddogol Israel gan y CU, meddianwyd y ddinas gan luoedd arfog yr Aifft, gan ysgogi Brwydr Beersheba. Fis Hydref 1948, gorchygwyd y ddinas gan Lu Amddiffyn Israel[1]. Ers hynny, mae'r ddinas wedi ffynnu a thyfu'n sylweddol.
Ystyr yr enw yw 'y saith ffynnon', am fod be'er yn yr Hebraeg yn golygu ffynnon, a sh'va, saith.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Guide to Israel, Zev Vilnay, Hamakor Press, Jerusalem, 1972, tt.309–14