Agor y brif ddewislen

Ail ddinas Canada a dinas fwyaf rhanbarth Québec yw Montréal (Saesneg: Montreal). Hon yw'r ddinas Ffrangeg fwyaf yng Ngogledd America, a'r ail ddinas Ffrangeg yn y byd ar ôl Paris. Yn ôl Cyfrifiad Canada 2001, mae ganddi 1,583,590 o drigolion, tra bod 3,635,700 o bobl yn byw yn Montréal Fawr (amcangyfrif 2005). Lleolir Montréal ar ynys (Ynys Montréal) yng nghanol Afon St Lawrence yn ne-orllewin Québec, tua 1600 km i'r gorllewin o Gefnfor Iwerydd.

Montréal
Old Port of Montreal (French- Vieux-Port de Montréal).jpg
Arwyddair Concordia Salus Edit this on Wikidata
Math city or town, metropolis Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Mount Royal Edit this on Wikidata
Qc-Montréal.ogg, LL-Q150 (fra)-Benoit Rochon-Montréal.wav, LL-Q56590 (atj)-Missatikamekw-Moriak.wav Edit this on Wikidata
Poblogaeth 1,704,694 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 17 Mai 1642 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Valérie Plante Edit this on Wikidata
Cylchfa amser Eastern Time Zone Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
Sir Urban agglomeration of Montreal Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Canada Canada
Arwynebedd 498 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 31 metr Edit this on Wikidata
Gerllaw Rivière des Prairies, Afon St Lawrence, Saint Lawrence Seaway Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Longueuil, Saint-Lambert, Westmount, Montréal-Est, Mount Royal, Hampstead, Sainte-Anne-de-Bellevue, Candiac, Sainte-Catherine Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 45.5089°N 73.5617°W Edit this on Wikidata
Cod postEdit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaethol Cyngor Dinas Montreal Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Mayor of Montreal Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Valérie Plante Edit this on Wikidata
Sylfaenwyd gan Paul de Chomedey, Sieur de Maisonneuve, Jeanne Mance Edit this on Wikidata
Golwg ar ganol dinas Montréal.

Cynnwys

HanesGolygu

 
Neuadd y Ddinas yn y nos.

Mae'r ddinas yn dyddio i gyfnod cyn i Ewropeaid wladychu Canada: pan gyrhaeddodd yr Ewropeaid cyntaf, wedi'u harwain gan y fforiwr Llydaweg Jacques Cartier, Ynys Montréal yn 1535, roedd pentref Iroquois Hochelaga yno yn barod. Mae'r wladfa Ffrangeg gyntaf (Ville-Marie) ar yr ynys yn dyddio i 1642. Cwympodd y dref i ddwylo byddin Prydain yn 1760. Ffynnodd y ddinas fel canolfan y fasnach ffwr yn y blynyddoedd wedyn. Cafodd ei hymgorffori fel dinas ym 1832, gan dyfu fel canolfan ddiwydiannol yn hanner cynta'r 19g. Heddiw mae'r ddinas yn ganolfan fasnachol, ddiwydiannol, ddiwylliannol ac ariannol. Mae'n ddinas amlddiwylliannol hefyd: tra bod mwyafrif y boblogaeth (69%) yn Ganadaidd Ffrangeg o ran iaith a diwylliant, mae tua 12% yn Ganadaidd Saesneg a'r gweddill (19%) yn perthyn i wahanol ddiwylliannau (Eidaleg, Arabeg, Sbaeneg, Tsieineeg a Groeg). Mae rhan fwyaf trigolion y ddinas yn ddwyieithog mewn Ffrangeg a Saesneg (o leiaf). Cynhaliwyd yr arddangosfa Expo yn y ddinas ym 1967, a'r Gemau Olympaidd yno ym 1976.

Adeiladau a chofadeiladauGolygu

PoblogaethGolygu

DiwylliantGolygu

TrafnidiaethGolygu

Mae Montréal yn borth bwysig i longau ar y ffordd i Gefnfor Iwerydd. Lleolir maes awyr mwyaf Québec, Maes Awyr Pierre Elliott Trudeau, ger canol y ddinas.

EnwogionGolygu

OrielGolygu