Beirniadaeth lenyddol ffeministaidd
Traddodiad o drin a thrafod llenyddiaeth sydd yn seiliedig ar theori ffeministaidd a mudiadau ac ideolegau ffeministaidd yn gyffredinol yw beirniadaeth lenyddol ffeministaidd. Man cychwyn y fethodoleg ffeministaidd yw tybiaeth y batriarchaeth: cymerir yn ganiataol taw'r profiad a'r safbwynt gwrywaidd sydd yn rheoli'r byd llenyddol, yn hanesyddol ac yn gyfoes, ac felly tynnir ar syniadau ffeministaidd i archwilio agweddau economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol, a seicolegol ac i ddadansoddi a disgrifio'r ffyrdd y mae'r naratif gwrywaidd yn gorbwyso ar ganon llên.[1] Dylanwadwyd yn gryf ar astudiaethau llenyddol yn niwedd yr 20g a'r 21g gan ddulliau ffeministaidd o graffu ar bortreadau o'r fenyw mewn llenyddiaeth wrwywaidd, ac ailganfod a gwerthfawrogi cyfraniadau llenorion benywaidd, ac o ganlyniad ehangir y corff o destunau a ddysgir gan fyfyrwyr mewn ysgolion a phrifysgolion, yn enwedig mewn gwledydd y Gorllewin.[2]
Yn draddodiadol, ymdriniai beirniadaeth ffeministaidd ag hen destunau'r canon o safbwynt newydd. Fel ffrwyth ffeministiaeth, agenda wleidyddol—yn aml radicalaidd—sydd gan yr ysgol hon o feirniadaeth, ac mae ei hamcanion yn cynnwys datblygu a diffinio traddodiad benywaidd o ysgrifennu, ailddarganfod ac ailystyried hen destunau gan ferched, dehongli symbolaeth ac agweddau unigryw llenyddiaeth fenywaidd, dadansoddi'r fath lenyddiaeth o safbwynt benywaidd, tynnu sylw at wleidyddiaeth rhyw o ran iaith ac arddull, a gwrthsefyll rhywiaeth yn y brif ffrwd lenyddol. Lluniodd Lisa Tuttle yr amcanion hyn yn y 1980au,[3] a bellach fe'u arddelir gan y mwyafrif o feirniaid ffeministaidd.
Gellir ei olrhain yn ôl i newyddiaduraeth Rebecca West (1892–1983) yn y 1910au. Dylanwadwyd yn gryf ar feirniadaeth ffeministaidd gan Virginia Woolf (1882–1941), yn enwedig ei hysgrif A Room of One's Own (1929), a'r llyfr Le deuxième sexe (1949) gan Simone de Beauvoir (1908–86). Aeddfedai'r traddodiad hwn yn sgil dyfodiad ffeministiaeth yr ail don yn y 1960au, yn enwedig yn Unol Daleithiau America, ac ymhlith prif awduron y to mae Mary Ellmann (1921–89) a Kate Millett (1934—2017). Canolbwyntia'r feirniadaeth hon yn gyntaf ar wreig-gasineb a stereoteipiau mewn llenyddiaeth gan ddynion, ac yn y 1970au datblygodd i drafod llenyddiaeth gan fenywod ac i lunio hanes llenyddol benywaidd.[4]
Ymgododd sawl carfan o feirniadaeth lenyddol ffeministaidd, ar y cyd â'r amryw ffurfiau ar ffeministiaeth—megis ffeministiaeth groenddu a ffeministiaeth lesbiaidd—a flodeuai yn ystod ail hanner yr 20g, yn canolbwyntio ar brofiadau a chyfraniadau mathau gwahanol o fenywod. Yn yr un modd, amrywia beirniadaeth ffeministaidd o ran ideoleg a methodoleg, gan gynnwys dulliau Marcsaidd, seicdreiddiol, ac ôl-adeileddol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Literary Theory and Schools of Criticism". Purdue OWL. Cyrchwyd 29 January 2016.
- ↑ Plain, Gill; Sellers, Susan (2007). A History of Feminist Literary Criticism. Cambridge University Press.
- ↑ Tuttle, Lisa: Encyclopedia of feminism. Harlow: Longman 1986, t. 184
- ↑ Dinah Birch (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2009), tt. 366–67.