Rebecca West
Ffeminist o Loegr oedd Rebecca West (21 Rhagfyr 1892 - 15 Mawrth 1983) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, beirniad llenyddol, awdur ysgrifau a swffragét. Cyflwynwyd iddi Fedal Benson am ei gwaith.
Rebecca West | |
---|---|
Ffugenw | Lynx |
Ganwyd | 21 Rhagfyr 1892 Llundain |
Bu farw | 15 Mawrth 1983 Llundain |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, llenor, beirniad llenyddol, awdur ysgrifau, swffragét, rhyddieithwr, gohebydd gyda'i farn annibynnol, nofelydd |
Swydd | beirniad Gwobr Booker |
Tad | Charles Fairfield |
Mam | Isabella Campbell Mackenzie |
Priod | Henry Maxwell Andrews |
Partner | H. G. Wells |
Plant | Anthony West |
Gwobr/au | Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America |
Ysgrifennai mewn sawl genre gan gynnwys adolygu llyfrau i'r The Times, y New York Herald Tribune, y Sunday Telegraph, a'r The New Republic. Roedd hefyd yn ohebydd i The Bookman. Mae ei phrif weithiau'n cynnwys: Black Lamb and Grey Falcon (1941), ar hanes a diwylliant Iwgoslafia; A Train of Powder (1955), disgrifiad ganddi o Achosion Llys Nuremberg, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn The New Yorker; The Meaning of Treason, a newidiwyd i The New Meaning of Treason, sef astudiaeth o achos llys y ffasgydd Seisnig William Joyce ac eraill; The Return of the Soldier, nofel fodern am y Rhyfel Byd Cyntaf; a'r "Aubrey trilogy" o'r nofelau hunangofiannol The Fountain Overflows, This Real Night, a Cousin Rosamund.
Disgrifiwyd hi yn 1947 yn Time "yn bendant, dyma awdur benywaidd gorau'r byd".[1][2]. Defnyddiai'r ffugenw "Rebecca West" o enw arwres y nofel Rosmersholm gan Henrik Ibsen.
Fe'i ganed yn Llundain ar 21 Rhagfyr 1892 a bu farw yn Llundain ac fe'i claddwyd ym Mynwent Brookwood. Roedd Anthony West yn blentyn iddi.[3][4][5][6][7]
Y dyddiau cynnar
golyguGanwyd Cicily Isabel Fairfield yn 1892 yn Llundain, y DU, a chafodd ei magu mewn cartref a oedd yn fwrlwm o thrafodaeth ysgogus deallusol, dadlau gwleidyddol, cwmni bywiog, llyfrau a cherddoriaeth.[8][9]
Roedd ei mam, Isabella, yn Albanes ac yn bianydd medrus ond ni ddilynodd yrfa gerddorol ar ôl ei phriodas â Charles Fairfield, cyn-filwr Eingl-Wyddelig a oedd wedi bod yn stretcher-bearer yng ngwarchae Richmond yn Rhyfel Cartref UDA. Dychwelyd i'r DU a dod yn newyddiadurwr llwyddiannus, ond aeth i drafferthion ariannol. Gadawodd ei deulu pan oedd Cicily yn wyth mlwydd oed. Ni ail-ymunodd â nhw erioed, a bu farw'n dlawd ac ar ei ben ei hun mewn tŷ preswyl yn Lerpwl yn 1906, pan oedd Cicily yn 14 oed.[10][11]
Symudodd gweddill y teulu i Gaeredin, yr Alban, addysgwyd Cicily yng Ngholeg Merched George Watson. Bu'n rhaid iddi adael yr ysgol yn 1907 o ganlyniad i'r diciâu (tuberculosis). Dewisodd beidio â dychwelyd ar ôl gwella o'r salwch, gan ddisgrifio ysgol Watson yn ddiweddarach fel “carchar”.[12]
Gyrfa
golyguHyfforddodd fel actores yn Llundain, lle cymerodd yr enw "Rebecca West". Gyda'i chwaer Lettie, cymerodd ran yn ymgyrch menywod dros etholfraint, hy yr hawl i ferched gael pleidleisio, yn enwedig mewn protestiadau stryd. Yn y cyfamser, gweithiai fel gohebydd i'r cylchgrawn wythnosol, ffeministaidd, Freewoman and the Clarion, a oedd yn llais i'r achos ffeministaidd yn Llundain.
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Academi Celf a Gwyddoniaeth America am rai blynyddoedd. [13][14]
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ The London Gazette, 3 Mehefin 1949, Supplement: 38628, t. 2804.
- ↑ The London Gazette, 30 Rhagfyr 1958, Supplement: 41589, t. 10.
- ↑ Rhyw: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 14 Awst 2015.
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Dame Rebecca West". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Rebecca West". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Rebecca West". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Rebecca West". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Rebecca West". ffeil awdurdod y BnF. "Rebecca West". "Rebecca West". "Rebecca West".
- ↑ Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Dame Rebecca West". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Rebecca West". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Rebecca West". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Rebecca West". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Rebecca West". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Rebecca West". ffeil awdurdod y BnF. "Rebecca West". "Rebecca West". "Dame Rebecca West". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Tad: Leo van de Pas (2003) (yn en), Genealogics, Wikidata Q19847326, http://www.genealogics.org
- ↑ Mam: Leo van de Pas (2003) (yn en), Genealogics, Wikidata Q19847326, http://www.genealogics.org
- ↑ Encyclopedia Brittanica, 17 Rhagfyr 2018
- ↑ Glendinning 1987, t. 9
- ↑ Chambers, Whittaker (8 December 1947). "Circles of Perdition: The Meaning of Treason". Time. Cyrchwyd 26 Mawrth 2017.
- ↑ Glendinning 1987, tt. 21–22
- ↑ Gordon N. Ray, H.G. Wells & Rebecca West (New Haven: Yale University Press, 1974), tt. 1–32.
- ↑ Galwedigaeth: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 15 Rhagfyr 2022. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 15 Rhagfyr 2022.
- ↑ Swydd: https://thebookerprizes.com/the-booker-library/judges/rebecca-west.