Bellefontaine (Vosges)
Mae Bellefontaine yn gymuned yn Département Vosges yn Rhanbarth Dwyrain Mawr, Ffrainc. Mae Bellefontaine yn gymuned amaethyddol yn bennaf. Fe'i croesir gan yr Afon Semouse sydd wedi'i leoli i'r de o’r gymuned. Mae ei diriogaeth yn ffurfio llwyfandir eang gydag uchder cyfartalog o 550 metr.
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 968 |
Daearyddiaeth | |
Arwynebedd | 39.11 km² |
Uwch y môr | 440 metr, 614 metr |
Yn ffinio gyda | Plombières-les-Bains, Raon-aux-Bois, Saint-Nabord, Xertigny |
Cyfesurynnau | 48.0131°N 6.4428°E |
Cod post | 88370 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Bellefontaine |
Mae rhan sylweddol o’i diriogaeth yn goediog (mwy na 1600 ha, neu tua 50% o'i diriogaeth). Y Forêt Domaniale de Humont (500 ha) yw'r goedwig fwyaf yn ardal Bellefontaine. Mae coedwigoedd cenedlaethol Thiébémont-les Drailles a choedwigoedd cymunedol y Rechreux, y Halleuche, a'r Trotelée hefyd yn rhan o’r gymuned.
Poblogaeth
golyguGaleri
golygu-
Eglwys St Blaise
-
Capel Notre-Dame-de-Bon-Secours
-
Cyn ffatri cyllyll a ffyrc
-
Llyn Pierrache
Pobl enwog o Bellefontaine
golygu- Nicolas-Joseph Frémiot, a anwyd 5 Hydref 1818 yn Bellefontaine a bu farw Gorffennaf 4, 1854 yn Blind River, Ontario. Offeiriad, aelod o Gymdeithas yr Iesu a chenhadwr[1].
- Georges Poirot, a anwyd ar 5 Ebrill 1891 yn Bellefontaine bu farw 29 Rhagfyr 1973 yn Saint-Nabord, arwr y Rhyfel Byd Cyntaf, yn aelod o'r Diables blues (diawliaid glas) a Chomander la Légion d'honneur.
- Pierre Raoult (1913-1987): Cyn-aelod gwrthiannol o Luoedd Rhydd Ffrainc - Cyn Maer Bellefontaine.[2]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu
- ↑ Dictionary of Canadian Biography FRÉMIOT, NICOLAS-MARIE-JOSEPH adalwyd 4 Medi 2017
- ↑ Les Vosgiens célèbres, ed. Gérard Louis, 1990